Neidio i'r prif gynnwy

Mae cyn-bostmon yn cyflawni pedwar degawd o wirfoddoli i Wasanaeth Ambiwlans Cymru

24.01.2025

MAE DYN o Wynedd yn dal i ffynnu ar ôl 40 mlynedd o wasanaeth fel gwirfoddolwr gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae Brian O'Shaughnessy wedi bod yn Yrrwr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol ers dros bedwar degawd yng ngogledd Cymru.

Mae Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn defnyddio eu cerbydau eu hunain i gludo pobl i ac o apwyntiadau ysbyty arferol, gan gynnwys dialysis, oncoleg ac apwyntiadau cleifion allanol.

Y llynedd, gwnaethant 43,961 o deithiau ledled Cymru, gan gwmpasu 1,403,901 o filltiroedd yn eu cerbydau eu hunain.

Hyd yn oed ar ôl cyrraedd y garreg filltir ryfeddol hon, nid oes ganddo unrhyw gynlluniau i arafu nac ymddeol o'r rôl y mae wedi bod yn ei gwneud ers 1984.

Mae gan Brian, 73, bump o wyrion ac wyresau ac mae'n byw yng Nghaernarfon gyda'i wraig Margaret, 71 oed.

Dywedodd Jenny Wilson, Rheolwr Gwirfoddoli Cenedlaethol yr Ymddiriedolaeth: “Mae gwirfoddoli gyda Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi dod yn bell ers i Brian ymuno â ni yn ôl yn 1984.

“Mae'r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn gocsen bwysig yn olwyn y gwasanaeth difrys.

“Mae gwirfoddolwyr yn dod i adnabod eu cleifion, yn enwedig y rhai maen nhw’n eu cludo’n rheolaidd, ac mae’n brofiad llawn cymaint o foddhad iddyn nhw ag ydyw i gleifion.”

Cyn ymuno â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, treuliodd Brian 25 mlynedd yn gweithio i'r Post Brenhinol cyn cynnig ei wasanaethau ym 1984 ar ôl cyfarfod ar hap ag aelod o staff ambiwlans.

Dywedodd: “Pan oeddwn i’n gweithio i’r Post Brenhinol, byddwn yn dechrau fy nyddiau’n gynnar iawn a byddwn wedi gorffen yn gynnar yn y prynhawn.

“Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i lenwi fy mhrynhawniau ac ar ôl sgwrsio gydag un o’r criw ambiwlans, ces i wybod am y Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol.

“Roedd yn swnio’n ddelfrydol ac ar ôl edrych i mewn iddo ymhellach, fe wnes i gais a dydw i ddim wedi edrych yn ôl ers hynny.”

Dros y blynyddoedd, mae Brian wedi teithio ledled y DU gyda chleifion ac ar un achlysur, wedi trosglwyddo claf a oedd wedi anafu ei hun tra ar wyliau yng ngogledd Cymru yr holl ffordd yn ôl i’w gartref yn Plymouth.

Mae'r holl deithio wedi golygu bod Brian wedi teithio cryn dipyn o filltiroedd ar ei gerbydau gyda phob un o'i bedwar car olaf yn gwneud mwy na 500,000 o filltiroedd.

Parhaodd Brian: “Rwy’n gofalu am fy ngheir fy hun ac yn gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu gwasanaethu’n rheolaidd.

“Mae fy nghar presennol eisoes wedi gwneud dros 300,000 o filltiroedd ac yn dal i yrru’n berffaith.”

Dywedodd Gareth Parry, Rheolwr Gweithrediadau (Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol): “Mae Brian wedi bod yn rhan annatod o’r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol dros y 40 mlynedd diwethaf.

“Trwy gydol y cyfnod hwnnw, mae wedi cael effaith hynod gadarnhaol ar gleifion di-ri ar draws gogledd Cymru, gan ymestyn dros gannoedd o filoedd o filltiroedd.

“Mae pawb yn y tîm yn parhau i ryfeddu at hyd ei wasanaeth a’i awydd i ddal ati, felly mae’n iawn ein bod yn cydnabod ac yn diolch iddo am ei wasanaeth rhagorol i wirfoddoli gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.”

Roedd y cyn-bostmon hyd yn oed yn darparu gwasanaeth dosbarth gyntaf trwy gydol y pandemig Covid-19, gan barhau i gludo cleifion i ac yn ôl o’u hapwyntiadau.

Dros y degawdau, mae Brian wedi dod i adnabod rhai o'i gleifion arferol yn dda ac yn aml yn synnu pa mor gyflym y bydd rhai ohonynt yn siarad am eu triniaeth a'u bywydau yn gyffredinol.

Meddai: “Gall rhai o’r bobl rwy’n eu cludo i apwyntiadau fod yn sâl iawn ac yn aml yn teimlo’n bryderus ac yn ansicr ynghylch beth fydd y dyfodol.

“Am wn i weithiau gall fod yn haws agor i fyny i ddieithryn ac yn aml iawn, o fewn 15 munud iddyn nhw ddod i mewn i’m car, maen nhw’n sgwrsio am bob math o bethau.

“Bob hyn a hyn, bydd rhywun yn dod ataf i ofyn a ydw i’n eu cofio cyn mynd ymlaen i siarad am sut maen nhw ac mae bob amser yn braf gweld cleifion yn gwneud yn dda ar ôl iddyn nhw dderbyn triniaeth.”

Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau: “Rydym yn hynod ddiolchgar i Brian a hoffem ddiolch iddo am ei wasanaeth dros y pedwar degawd diwethaf.

“Mae ei angerdd dros wirfoddoli yn parhau’n gryf ac mae’n esiampl wych i eraill ei dilyn os ydyn nhw’n ystyried dod yn wirfoddolwr i Wasanaeth Ambiwlans Cymru.”

 

I ddysgu mwy am y Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol neu am wirfoddoli yn gyffredinol, ewch i: Gwirfoddolwch i Ni - Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru


I ddysgu mwy am y Gwasanaeth Ceir Gwirfoddoli neu am wirfoddoli yn gyffredinol, ewch i: Volunteer For Us - Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru