Neidio i'r prif gynnwy

Gefeilliaid cynamserol yn aduno â chriw ambiwlans a helpodd i achub eu bywydau

MAE MAM o Gwm Cynon wedi cael aduniad emosiynol gyda'r criw ambiwlans a gefnogodd enedigaeth ei gefeilliaid cynamserol.

Roedd Catherine Johnson yn 29 wythnos yn feichiog pan aeth i esgor yn annisgwyl yn ei chartref yn Aberpennar ym mis Tachwedd.

Cyrhaeddodd criwiau ambiwlans i fynd â’r ddynes 36 oed i’r ysbyty, ond roedd gan efeilliaid Carreg ac Aneira gynlluniau eraill a orfododd Catherine i roi genedigaeth yn ei hystafell wely.

Defnyddiodd tîm o 12 o barafeddygon a thechnegwyr hyfforddiant arbenigol yr oeddent wedi'i gwblhau ychydig wythnosau cyn gofalu am y babanod newydd-anedig a'u cludo'n ddiogel i'r ysbyty.

Dywedodd Catherine: “Alla i ddim diolch digon iddyn nhw am yr hyn wnaethon nhw.


Dywedodd tad yr efeilliaid Mark Grice, 39: “Roedd eu proffesiynoldeb allan o’r byd.

“Doedd dim mynd i banig - roedden nhw’n gwybod yn union beth i’w wneud.”


Roedd Catherine, sydd hefyd yn fam i Megan, 17, Dylan, 15, Ava-Marie, 10, a Cadwyn, blwydd oed yn disgwyl genedigaeth gynnar yn seiliedig ar ei genedigaethau blaenorol - ond nid oedd yn rhagweld y byddai mor gyflym â hynny.

Ei ffrind Sally Prosser oedd yr un a wnaeth yr alwad 999, a'r ferch Megan wnaeth helpu Catherine i baratoi ar gyfer dyfodiad y criw ambiwlans.

Dywedodd Sally: “Do’n ni ddim wedi bod yn y tŷ yn hir pan ddechreuodd hi gael cyfangiadau.

“Roedd llai a llai o amser rhyngddynt felly aethon ni i fyny'r grisiau i gasglu rhai pethau i'r ysbyty.

“Y peth nesaf dwi’n gwybod, roedd hi wedi disgyn i’w gliniau ar y llawr.”

Cymerodd y triniwr galwadau Annmarie Childs yr alwad o Ganolfan Cyswllt Clinigol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yng Nghwmbrân.

Dywedodd: “Prin rydym yn derbyn galwadau am efeilliaid, felly rwy'n ei gofio'n fyw.

“Roedd Sally yn dawel iawn ac yn barod i helpu a gwnaeth bopeth y gofynnais iddi ei wneud.

“Gall delio â galwadau fod yn waith llawn straen ar adegau, yn enwedig pan fo oedi mewn ambiwlansys, ond mae swyddi fel hyn yn gwneud y cyfan yn werth chweil.”

Hannah Ivey, parafeddyg a rheolwr gweithrediadau oedd y cyntaf i gyrraedd y lleoliad.

Dywedodd Hannah: “O fewn ychydig funudau o gyrraedd, roedd dyfroedd Catherine wedi torri, yna o fewn munud i hynny, roedd babi rhif un wedi cael ei eni.

“Bydd pob gostyngiad o un gradd yn nhymheredd y corff o dan 36.5°C yn cynyddu’r risg o farwolaeth mewn babanod newydd-anedig gan 28 y cant, felly'r brif flaenoriaeth oedd eu cadw’n gynnes.

“Fe wnaethon ni roi’r babi yn groen-wrth-groen gyda Catherine er mwyn galluogi oedi wrth glampio llinynnau, sy’n caniatáu amser i waed ychwanegol lifo o’r brych i’r babi.

“Mae hyn yn bwysig i bob babi - yn enwedig babanod cynamserol - gan ei fod yn helpu gyda’r trawsnewid o fywyd y tu mewn i fywyd ar ôl genedigaeth.

“Fe wnaethon ni hefyd lapio’r babanod mewn bagiau plastig a blancedi i atal eu tymheredd rhag disgyn.

“Bu oedi o tua 50 munud nes i fabi rhif dau gyrraedd, a oedd hefyd yn ffolennol, jyst i gymhlethu pethau.

“Yn ffodus, nid oedd yn rhaid i ni ymyrryd a dim ond mater o’i droi i’r ffordd gywir oedd hynny.”

Aeth y parafeddyg Wayne Stephens â babi rhif un - Aneira - i'r ysbyty yn ddi-oed.

Dywedodd: “Er gwaetha’r ffaith ei bod hi’n gynamserol, roedd ei lliw yn binc hyfryd.

“Gwnaethom dreulio’r daith 15 munud yn ceisio ei chadw'n gynnes a chynnal ein harsylwadau.

“Roedd tîm yn Ysbyty’r Tywysog Siarl yn barod i dderbyn ni yn yno, ac roedd hynny’n rhyddhad i’w groesawu.”

Yn y cyfamser, roedd y parafeddyg Catherine Evans yn cefnogi genedigaeth babi rhif dau; Carreg.

Dywedodd: “Roedd Catherine yn anhygoel - trwper go iawn , er ei bod hi’n eithaf sâl ei hun ar ôl iddi eni’r efeilliaid.”

Anfonwyd Dr Ian Bowler, ymgynghorydd gofal critigol yn MEDSERVE Cymru, hefyd i gynnig cymorth ychwanegol.

Dywedodd: “Unwaith y cafodd y ddau fabi eu geni, trodd ein sylw at fam, a gafodd waedlif ôl-enedigol.

“Daeth Mam yn glaf bryd hynny, ac roedd yn ymwneud â cheisio atal y gwaedu.

“Roedd yn sefyllfa a oedd wedi’i rheoli’n dda iawn ac roedd y parafeddygon yno yn wych.

“Cawsom dderbyniad gwych hefyd yn Ysbyty’r Tywysog Siarl.”

Ymhlith y tîm hefyd roedd parafeddyg Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru (CHARU) Bryony Tolley.

Mae mwy na 100 o barafeddygon CHARU yn gweithredu ledled Cymru gan ymateb i’r galwadau mwyaf brys, gan gynnwys trawma mawr ac argyfyngau mamolaeth.

Dywedodd Bryony: “Mae'n debyg mai efeilliaid sy'n cael eu geni yn 29 wythnos yw hunllef waethaf y rhan fwyaf o barafeddygon, ond mae yna hwb mawr wedi bod mewn thermoreolaeth mewn babanod newydd-anedig, felly diolch byth roedd yr hyfforddiant yn ffres yn ein meddyliau.

“Roedden ni’n ffodus bod gennym ni gymaint o adnoddau yn y fan a’r lle ag oedd gennym ni, ac o ystyried pa mor gynamserol oedden nhw, roedd y genedigaethau yn gymharol syml.

“Roedd yn gwbl hanfodol bod eu tymheredd yn cael ei gynnal - heb hynny, gallai fod pob math o gymhlethdodau wedi codi.”

Bethan Jones yw’r Hyrwyddwr Diogelwch Lleol ar gyfer Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol, wedi’i secondio i Wasanaeth Ambiwlans Cymru fel rhan o Raglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol Llywodraeth Cymru i wella diogelwch, profiad a chanlyniadau i famau a babanod yng Nghymru.

Dywedodd: “Y peth pwysicaf y gallwn ei wneud ar gyfer babanod newydd-anedig yw eu cadw’n gynnes, gan fod babanod cynamserol yn arbennig yn colli gwres yn gyflym iawn.

“Buom yn gweithio'n agos gyda Thîm Dysgu a Datblygu'r Ymddiriedolaeth i ddatblygu pecyn hyfforddi ar-lein a hyfforddiant gorfodol ar thermoreolaeth  ychydig wythnosau yn unig cyn yr alwad gan Catherine.

“Heb os nac oni bai, mae’r sgiliau a’r wybodaeth yr oedd y criw wedi’u meithrin wedicefnogi’r efeilliaid gyda’u trawsnewid adeg eu geni.

“Byddai hyn wedi cael effaith gadarnhaol enfawr ar y daith oedd o flaen i Carreg ac Aneria.”

Mae gan bob ambiwlans a char ymateb yn fflyd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru bellach siwtiau 'Neo-HeLP' i gadw babanod yn gynnes.

Mae'r siwt polyethylen achludol, y mae babanod yn cael eu gosod ynddo yn syth ar ôl genedigaeth, wedi'i gynllunio i atal hypothermia babanod newydd-anedig.

Mae'n un o nifer o fentrau y mae'r Ymddiriedolaeth wedi'u cyflwyno yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wella'r gofal y mae'n ei ddarparu i famau newydd, pobl sy'n rhoi genedigaeth a'u babanod.

Dywedodd Steven Magee, Parafeddyg Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Rhanbarthol: “Ni yw un o’r gwasanaethau ambiwlans cyntaf yn y DU i gael offer i’r safon hon, ac rydym yn hynod falch ohono.

“Yn ogystal â chyflwyno’r offer newydd, fe wnaethom hefyd ddatblygu pecyn dysgu ar-lein i gefnogi ein huchelgais i ddarparu safon aur o ofal i fabanod yn y gymuned.

“Heb yr hyfforddiant ychwanegol hwnnw, a oedd yn ffres ym meddyliau pawb, gallai fod wedi bod yn stori wahanol iawn.”

Treuliodd Carreg ac Aneira - a oedd yn pwyso 3 pwys a 2 pwys 12 owns yn y drefn honno - wyth wythnos yn yr ysbyty ar ôl eu geni ym mis Tachwedd.

Ddoe, fe gawson nhw eu hailuno â’r criw a chefnogodd eu geni.


Dywedodd Mark, adeiladwr: “Roedd yr holl beth yn niwl enfawr, ond rydyn ni mor ddiolchgar am bopeth a wnaeth pawb.

“Allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw.”