MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cefnogi Mis Hanes LHDT+ ym mis Chwefror.
Mae Mis Hanes LHDT+ yn ddigwyddiad mis o hyd blynyddol sy'n nodi hanes lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol .
Y thema ar gyfer 2024 yw Meddygaeth - #DanYMicrosgop, sy’n dathlu cyfraniad pobl LHDTC+ at Feddygaeth a Gofal Iechyd yn hanesyddol a heddiw.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cyflogi tua 300 o staff a gwirfoddolwyr o’r gymuned LHDTC+.
Ychwanegodd Kathryn Cobley, Pennaeth Cynhwysiant ac Ymgysylltu yr Ymddiriedolaeth: “Rydym yn cydnabod gwerth cael gweithlu amrywiol sy’n cynnwys ein staff LHDTC+ niferus.
“Mae eu profiad bywyd unigol unigryw yn eu galluogi i ddangos tosturi a dealltwriaeth tuag at eraill a all deimlo'n ynysig, yn lleiafrifol ac wedi’u camddeall yn ein cymunedau.
“Mae’r sgil a’r wybodaeth hon yn cael eu gwerthfawrogi’n fawr gan ein defnyddwyr gwasanaeth LHDTC+ sydd yn aml yn gallu teimlo’n anniddig a phryderus wrth gael mynediad at wasanaethau gofal iechyd brys.
“Maen nhw hefyd yn estyn eu tosturi tuag at bobl fregus eraill sy’n wynebu heriau ac yn profi gwahaniaethu, gan helpu i feithrin ymddiriedaeth a diwallu eu hanghenion gofal iechyd.”
Lansiwyd Rhwydwaith Staff a Gwirfoddolwyr LHDTC+ yr Ymddiriedolaeth yn 2017, ac erbyn hyn mae ganddo dros 100 o aelodau.
Dywedodd Kathryn: “Mae ein rhwydwaith staff LHDTC+ wedi chwarae rhan hanfodol wrth godi ymwybyddiaeth ymhlith y gweithlu ehangach ac wedi annog staff eraill i ddysgu mwy am yr heriau y mae ein cymunedau LHDTC+ yn eu hwynebu.
“Mae’r rhwydwaith wedi dylanwadu ar ein deunyddiau hyfforddi sy’n cael eu cyflwyno i staff ar draws y sefydliad ac maen nhw wedi rhoi croeso cynnes i staff sydd wedi mynychu digwyddiadau Pride a chynadleddau LHDTC+.
“Mae’r ymddygiad meithringar hwn wedi helpu staff i ddod yn gynghreiriaid gwell i’r cymunedau LHDTC+ ac wedi eu hannog i rannu eu profiadau dysgu ag eraill, sy’n golygu bod y gefnogaeth i’n cymunedau LHDTC+ yn parhau i dyfu.”
Ychwanegodd Gareth Thomas, Rheolwr Profiad y Claf a Chynnwys y Gymuned a Chadeirydd y rhwydwaith: “Fe wnaethom sefydlu’r rhwydwaith sawl blwyddyn yn ôl i gefnogi’r Ymddiriedolaeth i ddod yn lle mwy cynhwysol ar gyfer staff a gwirfoddolwyr LHDTC+ ac i gynnig man diogel ar gyfer unrhyw bryderon oedd ganddynt.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda’r Rhwydwaith Ambiwlans Cenedlaethol LHDT+, sy’n dod â rhwydweithiau staff LHDTC+ o wasanaethau ambiwlans ar draws y DU ynghyd.
“Mae’r rhwydwaith cenedlaethol wedi gweithio’n galed i ddatblygu llawer o adnoddau i godi ymwybyddiaeth o’r heriau y mae’r gymuned LHDTC+ yn eu hwynebu ac i gynnig offer ac adnoddau addysg i staff y gwasanaeth ambiwlans, gan eu helpu i ddarparu gofal gwybodus i bobl o’r gymuned LHDTC+.”
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi cymryd rhan mewn amrywiaeth o fentrau i hyrwyddo diwylliant o gynwysoldeb a dealltwriaeth yn y gweithle ac mae hefyd yn mynychu digwyddiadau Pride ledled Cymru.
Mae staff a gwirfoddolwyr hefyd yn cael eu hannog i wisgo bathodyn pin 'Seren Bywyd lliw Enfys' i nodi eu hunain fel cynghreiriaid y gymuned LHDTC+.
Yn eu plith mae Nik Dart, Swyddog Cefnogi - Gwirfoddoli, sydd wedi’i lleoli yn Nhŷ Bannau, a ddywedodd: “Rwy’n ystyried fy hun yn gynghreiriad o’r gymuned LHDTC+ sy’n golygu fy mod yn barod i sefyll i fyny, cefnogi ac annog pobl LHDTC+ i fod yn wir iddyn nhw eu hunain.
“Fel cynghreiriad, rwy’n ceisio gwneud y byd yn lle gwell i bobl sy’n uniaethu fel LHDTC+ ac yn ymladd dros gydraddoldeb i bawb waeth beth fo’u hil, hunaniaeth rhywedd, anabledd neu ddewis rhywiol.
“Rwy’n falch o fynychu Pride a digwyddiadau cymunedol LHDTC+ eraill gyda fy nghydweithwyr i gefnogi a dangos cynhwysiant a derbyniad.”