Neidio i'r prif gynnwy

Neges Nos Galan oddi wrth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru

30.12.24

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gofyn i’r cyhoedd gadw’n ddiogel a defnyddio 999 yn gyfrifol Nos Galan eleni.

 

Cyn un o nosweithiau prysuraf y flwyddyn, mae'r Ymddiriedolaeth yn gofyn i bobl gymryd y rhagofalon canlynol i gadw eu hunain yn iach -

  • Stociwch i fyny ar feddyginiaethau presgripsiwn cyn fydd meddygfeydd ar gau.
  • Yfwch alcohol yn gymedrol, bwytwch cyn yfed ac yfwch ddiodydd alcoholaidd bob yn ail gyda diodydd meddal.
  • Trefnwch eich cludiant adref o flaen llaw, a pheidiwch byth â gyrru dan ddylanwad diod neu gyffuriau.
  • Osgowch weithgareddau risg uchel fel tân gwyllt – yn ogystal â llosgiadau, gall anadlu mwg o goelcerthi a thân gwyllt hefyd gythruddo cyflyrau anadlol, fel asthma.
  • Sicrhewch fod gennych becyn cymorth cyntaf llawn i ofalu am fân anafiadau gartref, gan gynnwys meddyginiaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin fel peswch, dolur gwddf a dolur rhydd.
  • Byddwch yn arbennig o ofalus yn ystod y tywydd oer i osgoi llithro, baglu a chwympo, a damweiniau ar y ffordd.
  • Cadwch lygad allan am deulu, ffrindiau a chymdogion sy'n arbennig o agored i niwed.
  • Os ydych chi'n sâl neu wedi'ch anafu ac yn ansicr beth i'w wneud, ewch i wefan GIG 111 Cymru i wirio'ch symptomau i ddarganfod beth sy’n bod a'r camau nesaf i'w cymryd.

Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae Nos Galan bob amser yn gyfnod prysur iawn i ni, ac rydym eisoes wedi gweld naid yn nifer y galwadau sy’n cael eu derbyn gan ein canolfannau cyswllt.

“Mae nifer y galwadau ‘coch’ lle mae bywyd yn y fantol rydym wedi’u cael yn y saith niwrnod diwethaf yn parhau i fod yn uchel iawn, gyda’r gwasanaeth yn derbyn 1,487 o alwadau o gymharu â dim ond 1,161 ar gyfer yr un cyfnod y llynedd.

“Mae’r galw hefyd wedi cynyddu’n sylweddol ar ein gwasanaeth GIG 111 Cymru ac wedi ein gweld yn ateb bron i 1,500 yn fwy o alwadau o gymharu â’r un wythnos yn 2023.

“Mae’r system iechyd dan bwysau sylweddol ar hyn o bryd ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae i sicrhau ein bod yn diogelu ein hadnoddau gwerthfawr ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf felly gweithredwch yn gyfrifol a helpwch ni i’ch helpu.

“Cofiwch fod 999 ar gyfer argyfyngau yn unig felly os nad yw’n argyfwng ond bod angen cymorth meddygol arnoch neu os ydych eisiau sicrwydd, gwefan GIG 111 Cymru ddylai fod eich man cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor, gwybodaeth a’r camau nesaf.”

Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn gofyn i'r cyhoedd drin gweithwyr brys gyda pharch.

“Ar adeg pan fydd llawer o bobl yn mwynhau hwyl y tymor ac yn yfed alcohol, ystyriwch y rhai sy'n gweithio'n galed i gadw pobl yn ddiogel a thriniwch ein gweithwyr ambiwlans â'r parch maen nhw’n ei haeddu” meddai Judith wedyn.

“Mae gweithwyr brys yn fodau dynol arferol dim ond yn ceisio gwneud swydd - maen nhw yno i'ch helpu chi, felly peidiwch â gwneud eu swyddi'n galetach nag ydyn nhw'n barod trwy eu darostwng i unrhyw fath o ymddygiad camdriniol.

“Dymunwn noson bleserus ac iechyd i bawb yn y flwyddyn i ddod.”