MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gwahodd y cyhoedd i fwrw pleidlais yn ei seremoni wobrwyo flynyddol.
Mae pleidleisio ar agor mewn pedwar categori yng Ngwobrau WAST 2024, gan gynnwys Tîm y Flwyddyn, Ysbrydoli Eraill, Gwrandäwr Gwych a Dewis y Bobl.
Dywedodd yr Athro Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae’r Ymddiriedolaeth yn llawn o bobl anhygoel, yn gwneud pethau rhyfeddol bob dydd.
“Heb eu gwaith caled, eu gofal a’u hawydd i helpu pobl Cymru, ni fyddai’r gwasanaeth yn gweithio.
“Felly, mae’n bwysig iawn ein bod ni’n cydnabod, yn dathlu ac yn cymeradwyo ein staff a’n gwirfoddolwyr.
“Yn aml, mae ein pobl yn wylaidd iawn am y swydd maen nhw'n ei gwneud ac nid ydyn nhw bob amser yn sylweddoli pa mor arbennig a phwysig ydyn nhw.
“Nid dim ond unrhyw swydd yw gweithio i’r gwasanaeth ambiwlans – mae’n swydd sy’n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, felly mae Gwobrau WAST yn gyfle i oedi a myfyrio ar eu cyflawniadau a dweud diolch.
“Mae tîm WAST yn cynnwys dros 4,000 o bobl ac er eu bod i gyd yn cyfrannu yn eu ffyrdd unigryw eu hunain, dyma gyfle’r cyhoedd i ddweud wrthym pwy ddylai gael cydnabyddiaeth arbennig ychwanegol yn eu barn nhw.
“Rydym wedi derbyn cyfanswm o dros 300 o enwebiadau felly cymerwch olwg ar rai o’r enwebeion gwirioneddol ysbrydoledig rydym wedi’u cael a helpwch ni i benderfynu ar enillydd.”
Darllenwch yr enwebiadau isod a bwrwch bleidlais cyn y dyddiad cau sef 11.59pm ddydd Iau, 12 Medi 2024.
Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn bersonol yng Ngwobrau WAST ym mis Tachwedd.
Defnyddiwch yr hashnod #WASTAwards24 i ddilyn y sgwrs ar gyfryngau cymdeithasol.
Cliciwch yma i fwrw eich pleidlais.