MAE CWPL o Wrecsam wedi diolch i'r criw ambiwlans a achubodd fywyd eu mab ar ôl iddo stopio anadlu.
Mae Natalie a Danny McCluskey, o Southsea, Wrecsam, wedi diolch yn bersonol i griw Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a ymatebodd i argyfwng meddygol eu mab mewn aduniad emosiynol.
Nid oedd gan y gweithiwr post Danny, 33, a'r athrawes Natalie, 32, unrhyw syniad pa mor ddifrifol y byddai digwyddiadau'n dirywio dim ond diwrnod cyn i'w mab Jackson ddathlu ei ben-blwydd cyntaf.
Dywedodd Natalie: “Y bore cyn pen-blwydd cyntaf Jackson, roedd o i’w weld bach yn ddiynni ac roedd bach o dymheredd gyda fo ond fel arall roedd o’n i’w weld yn iawn.
“Ro’n i wedi bod draw i ymweld â mam ac yna yn ddiweddarach yn y prynhawn, wedi mynd i’r parc siopa i gael cerdyn pen-blwydd a chwpl o bethau eraill yn barod ar gyfer ei ben-blwydd.
“Tra o’n i yn y siop gardiau, aeth Jackson yn gysglyd iawn ac erbyn i ni gyrraedd yn ôl at y car, roedd wedi dechrau cael trawiad.
“Doedd Jackson erioed wedi cael trawiad o’r blaen, ac roedd yn frawychus iawn ei weld fel yna, felly fe wnes i ffonio 999 ar unwaith ac egluro beth oedd yn digwydd.”
Cyrhaeddodd Ian Binnington, Uwch Ymarferydd Parafeddygol yn y Ganolfan Adnoddau Gwasanaethau Ambiwlans a Thân yn Wrecsam, y lleoliad bum munud yn unig ar ôl yr alwad 999 gychwynnol, ynghyd ag Arweinydd Clinigol y Bwrdd Iechyd, Hannah Lowther a oedd gydag Ian yn cael profiad ar y maes.
Dywedodd Ian: “Pan gyrhaeddais, o’n i’n gallu gweld bod Jackson yn dal i gael confylsiynau a’i fod wedi bod yn ffitio’n barhaus ers sawl munud.
“I ddechrau, rhoddais feddyginiaeth gwrthdrawiad a oedd yn gweithredu’n gyflym ond yn anffodus, ni lwyddodd hynny i atal trawiadau Jackson a bryd hynny, ro’n i’n gwybod bod pethau’n ddifrifol iawn a galwais am gymorth wrth gefn.”
Derbyniodd Alix Arendacz, rheolwr gweithredol hefyd wedi'i leoli yn Wrecsam, y cais am gymorth wrth gefn a rhuthrodd i'r lleoliad ar unwaith.
Dywedodd Alix: “Pan ddaeth y cais i mewn, roedd ar gyfer cymorth wrth gefn ‘P1’, sef y lefel uchaf o gymorth wrth gefn y gallwch ofyn amdani felly o’n i’n gwybod bod y sefyllfa’n ddifrifol iawn a bod angen cymorth cyn gynted â phosibl ar Ian.
“Pan wnes i gyrraedd, fe wnaethon ni berfformio gweithdrefn lle mae meddyginiaeth yn cael ei rhoi yn uniongyrchol i asgwrn y claf.
“Rhaid i mi ddweud, yn ystod yr holl flynyddoedd rydw i wedi bod yn barafeddyg, mai Jackson yw’r claf cyntaf i mi berfformio’r driniaeth hon tra’u bod nhw’n effro, sy’n dangos pa mor ddifrifol oedd ei gyflwr.”
Er gwaethaf ymdrechion i gael y ffitiau dan reolaeth, parhaodd Jackson i ffitio a phenderfynwyd y byddai angen mynd ag ef i'r adran achosion brys cyn gynted â phosibl.
Dywedodd Ian: “Fe wnaethon ni rybuddio staff Ysbyty Maelor Wrecsam ymlaen llaw a rhoi gwybod iddyn nhw am gyflwr Jackson a dim ond tri munud yn ddiweddarach, fe gyrhaeddon ni i’w drosglwyddo i dîm arbenigol oedd yn aros amdano.”
Ar ôl cyrraedd yr adran achosion brys, roedd Jackson bellach mor wael nes iddo stopio anadlu a mynd i ataliad anadlol.
Dywedodd Natalie: “Hyd at y pwynt hwnnw, doedd o ddim wedi fy nharo i ba mor ddifrifol oedd pethau ond pan aeth yr alwad frys allan am dîm damwain, a welais i nhw’n rhuthro heibio i mi gyda’r diffibriliwr wnes i rili dechrau mynd i banig.
“Roedd Ian yn wych – wnaeth o aros gyda ni drwy’r amser ac aeth o’n gam ymhellach i dawelu ein meddyliau ac i wneud yn siŵr ein bod yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf.”
Cafodd Jackson ei ddadebru'n llwyddiannus ac yn ddiweddarach cafodd ddiagnosis o ddatchwyddiad yr ysgyfaint chwith oherwydd niwmonia.
Treuliodd bum niwrnod yn yr ysbyty ac ers hynny mae wedi gwella'n llwyr.
Ychwanegodd Hannah Lowther: “Roedd y digwyddiad yn bersonol yn heriol yn emosiynol, gyda phlentyn o oedran tebyg gartref.
“Ro’n i wrth fy modd ac yn falch o glywed bod yr ymyriadau achub bywyd amserol wnaethon ni eu darparu wedi cael canlyniad mor gadarnhaol i Jackson a’i deulu.”
Dywedodd Natalie: “Do’n ni byth yn disgwyl treulio ei ben-blwydd cyntaf yn yr ysbyty ond ro’n ni’n hapus ei fod yn fyw ac yn dal i fod efo ni.
“Roedd y staff yn yr uned babanod ym Maelor Wrecsam yn wych ac wedi gwneud ymdrech wirioneddol gyda ni i ddathlu ei ben-blwydd.
“Ar nodyn personol, hoffem gofnodi ein diolch diffuant i Ian, Alix a Hannah gan ein bod yn credu mai eu gweithredoedd pendant a’u penderfyniad i beidio ag oedi cyn mynd â Jackson i’r adran achosion brys a achubodd ei fywyd yn y pen draw.
“Wnaeth Ian hyd yn oed gymryd yr amser i ddod nôl i’r ysbyty'r diwrnod canlynol i wirio arnon ni, wnaeth o dangos pa mor bwysig oedd hwn iddo.
“Byddwn ni’n ddiolchgar am byth.”
Nodiadau gan y Golygydd
I gael rhagor o wybodaeth, e-bostiwch y Swyddog Cyfathrebu Jeff.Prescott@wales.nhs.uk neu ffoniwch Jeff ar 07811 748363.