Neidio i'r prif gynnwy

Cydnabod un o hoelion wyth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin

14.02.24
 

MAE un o hoelion wyth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi’i gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd Ei Fawrhydi’r Brenin.

Mae Mike Jenkins, Parafeddyg Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol Rhanbarthol, wedi ennill Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Brenin am wasanaeth nodedig, cyhoeddwyd heno.

Fis diwethaf, dathlodd Mike, o Gaerdydd, 40 mlynedd yn y gwasanaeth ambiwlans.

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydym wrth ein bodd ac yn hynod o falch bod Mike wedi cael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.

“Yn ystod ei oes o wasanaeth,
mae wedi parhau’n ddiysgog yn ei ymrwymiad i wella diogelwch cleifion, canlyniadau clinigol a phrofiad y claf. 

“Mae ei ymroddiad i ddatblygu eraill ac annog cenedlaethau’r dyfodol i swyddi arweinyddiaeth glinigol i helpu i gyflawni’r safonau gofal uchaf hefyd wedi bod yn rhagorol.

“Mae’r Rhestr Anrhydeddau yn cydnabod rhai o’n gweithwyr ambiwlans proffesiynol gorau, ac ar ran pawb yn Nhîm WAST, hoffwn estyn llongyfarchiadau mawr i Mike.

Ymunodd Mike â’r gwasanaeth ambiwlans ym 1984 fel Goruchwyliwr Parafeddygol.

Roedd ymhlith y cyntaf yn y DU i gymhwyso fel Uwch Ymarferydd Parafeddygol yn 2006 ac mae’n parhau i ymarfer ar y lefel hon.

Yn 2016, daeth yn Bennaeth Diogelwch Cleifion, Pryderon a Dysgu’r Ymddiriedolaeth, a blwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei benodi’n Arweinydd Clinigol Rhanbarthol yn ne ddwyrain Cymru.

Yn fwy diweddar, mae Mike wedi arwain y gwaith o ddatblygu a darparu llwybrau clinigol cenedlaethol newydd ar gyfer cleifion sy’n dioddef strôc, argyfyngau fasgwlaidd a chyflyrau anadlol ledled Cymru.

Mae hefyd wedi chwarae rhan allweddol yn hyfforddiant ac addysg clinigwyr rheng flaen.

Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth: “Ddim yn fodlon ar hyn i gyd, mae Mike hefyd bellach yn rhan o brosiect newydd i wella gofal strôc ymhellach yng Nghymru drwy harneisio technoleg fideo.

“Mae yna lawer o gydweithwyr ar draws yr Ymddiriedolaeth a thu hwnt sydd wedi helpu i wneud i hyn ddigwydd ond heb ymroddiad ac ymrwymiad Mike, ni fyddai’r gwaith hwn wedi symud ymlaen mor gyflym nac mor gynhwysfawr. 

“Mae ei gyfraniad wrth ddylunio a chyflawni’r gwelliannau hyn i gleifion wedi bod yn eithriadol.”

Yn y cyfamser, mae'r parafeddyg wedi ymddeol Dennis Moss wedi derbyn MBE am ei wasanaethau i Wasanaethau Ambiwlans Cymru ac i gymorth cyntaf dramor.

Dechreuodd Dennis, o Gaerdydd, ei yrfa yn adran Ambiwlans Maes 158 y Fyddin Diriogaethol yn 17 oed a chafodd ei ysbrydoli i ddod yn barafeddyg ar ôl ei ran yn ymdrech achub trychineb Aberfan ym 1966.

Ymunodd â Gwasanaeth Ambiwlans De Morgannwg ym 1975 a chredir mai ef oedd y parafeddyg Asiaidd cyntaf yng Nghymru.

Fel aelod o Bwyllgor Du ac ethnig lleiafrifol (BME) y Gwasanaeth Ambiwlans Cenedlaethol, roedd Dennis yn arloeswr yn natblygiad polisi cydraddoldeb ac amrywiaeth cyntaf yr Ymddiriedolaeth.

Yn 2015, sefydlodd Team India, grŵp o weithwyr proffesiynol o bob rhan o'r GIG, y gwasanaeth ambiwlans a thân, i ddarparu sgiliau ac offer achub bywyd i gymunedau yn India.

Yn 2022, teithiodd y grŵp i New Delhi, Amritsar, Darjeeling a Jamshedpur, lle ganwyd Dennis, i ddarparu hyfforddiant i ysgolion, mannau addoli, yr heddlu a staff nyrsio.

Ymddeolodd Dennis yn 2016 ar ôl mwy na 40 mlynedd o wasanaeth.

Dywedodd Jason: “Mae yw deugain mlynedd o wasanaeth ambiwlans yn dipyn o orchest, ac mae’r ffaith bod Dennis yn dal i helpu’r rhai llai ffodus yn ganmoladwy iawn.

“Llongyfarchiadau mawr i Dennis ar ei MBE.”

Mae mwy na 1,000 o bobl o bob rhan o’r DU wedi’u cydnabod ar Restr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.

Ffocws y rhestr hon yw unigolion sydd wedi cael effaith anfesuradwy ar fywydau pobl ledled y wlad, megis trwy greu atebion arloesol neu ysgogi newid gwirioneddol mewn bywyd cyhoeddus.

Mae llawer yn hyrwyddwyr cymunedol gweithredol, yn entrepreneuriaid cymdeithasol arloesol, yn wyddonwyr arloesol, yn weithwyr iechyd angerddol a gwirfoddolwyr ymroddedig.