23.12.24
MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi lansio menter newydd yn ne Cymru i ddarparu gofal yn nes at y cartref ar gyfer cleifion.
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi partneru â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan i gyflwyno Uwch Ymarferwyr Parafeddygol ym Mlaenau Gwent i drin mwy o bobl yn y gymuned a lleihau derbyniadau diangen i'r ysbyty.
Mae Uwch Ymarferwyr Parafeddygol yn barafeddygon cofrestredig sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant ychwanegol ac astudiaeth prifysgol i ddarparu gofal gwell i gleifion.
Mae gan rai hefyd y gallu i ragnodi meddyginiaethau.
Ym Mlaenau Gwent, mae Uwch Ymarferwyr Parafeddygol yn rhannu eu hamser rhwng galwyr 999 yn y gymuned a chleifion yn y lleoliad gofal sylfaenol fel rhan o brosiect a ddatblygwyd hefyd i hybu capasiti meddygfeydd meddygon teulu.
Dywedodd Hannah Lowther, Arweinydd Datblygiad Proffesiynol ar gyfer Ymarfer Uwch yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Dim ond un ffordd rydyn ni’n gweithio’n galed i ddarparu’r gofal neu’r cyngor iawn, yn y lle iawn, bob tro yw Uwch Ymarferwyr Parafeddygol.
“Ym Mlaenau Gwent, mae pedwar Uwch Ymarferydd Parafeyddgol yn cefnogi 10 meddygfa meddyg teulu gyda phoblogaeth o 72,445 ar draws y fwrdeistref trwy gynnal ymweliadau cartref ar gyfer cleifion y gallai fod angen eu derbyn i’r ysbyty, ond a allai gael mynediad at y Tîm Adnoddau Cymunedol gydag adolygiad cyflym.
“Gall yr ymyrraeth gynnar hon gan Uwch Ymarferwyr Parafeddygol osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty a phan fo’n glinigol ddiogel, helpu i gadw pobl yn eu cartrefi, sef yn aml lle mae’n well gan lawer o’n cleifion fod.
“Mae’r trefniant cylchdro newydd hwn wedi’i gynllunio i wneud yn union hynny, ac rydym wrth ein bodd bod hyd yn oed mwy o gleifion yng Nghymru yn cael manteisio ar sgiliau ein Uwch Ymarferwyr Parafeddygol.”
Ymhlith y garfan newydd mae Rob Horton, a astudiodd Wyddoniaeth Barafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe, ac a gymhwysodd fel Uwch Ymarferydd Parafeddygol ym mis Gorffennaf.
Dywedodd y dyn 29 oed: “Yr hyn rydw i’n ei fwynhau am rôl Uwch Ymarferydd Parafeddygol yw bod gen i’r gorau o ddau fyd.
“Rwy’n treulio hanner fy amser yn ymateb yn unigol i alwadau 999 ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, a’r hanner arall fel rhan o dîm gofal sylfaenol amlddisgyblaethol llawer ehangach.
“Yn y ddau senario, mae gen i’r gallu i wneud penderfyniadau ymreolaethol, ond rydw i hefyd yn gwybod bod yna feddyg teulu drws nesaf neu ar ddiwedd y ffôn os bydd angen cyngor arbenigol arnaf.
“Rydyn ni wedi datblygu perthynas broffesiynol wych oherwydd yn y pen draw, rydyn ni’n anelu at yr un nod, sef darparu gofal o ansawdd uchel ac amserol, mor agos at y cartref â phosibl.”
Mae data'n dangos bod angen mynd â thua 70% yn llai o bobl i'r ysbyty pan fydd Uwch Ymarferydd Parafeddygol yn ymateb iddo, o gymharu â chriwiau ambiwlans traddodiadol.
Dywedodd Dr James Calvert, Cyfarwyddwr Meddygol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: “Mae’r cydweithrediad arloesol hwn gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn enghraifft wych o sut rydym yn gweithio gyda’n gilydd i sicrhau bod cleifion yn cael gofal amserol o ansawdd uchel yn nes at y cartref tra ar yr un pryd yn lleddfu’r pwysau ar ein hysbytai i sicrhau bod gwelyau ar gael i’r cleifion sydd eu hangen fwyaf.
“Mae’r dull newydd hwn ym Mlaenau Gwent yn blaenoriaethu lles cleifion, gan ganiatáu i ni gadw pobl yn ddiogel yn eu cartrefi eu hunain pryd bynnag y bo modd.”
Mae mwy na 100 o Uwch Ymarferwyr Parafeddygol bellach yn gweithredu ledled Cymru, gan gynnwys yn ystafell reoli’r ambiwlans, lle maen nhw’n gofalu am gleifion o bell dros y ffôn, gan helpu i drefnu’r cymorth mwyaf priodol yn seiliedig ar eu hanghenion.
Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae ehangder a dyfnder y gwaith a wneir gan barafeddygon yn datblygu’n gyflym, ac mae rôl Uwch Ymarferydd Parafeddygol yn benodol yn caniatáu i barafeddygon weithio ar draws y system iechyd a gofal gyfan yn hytrach na bod yn gyfyngedig i rolau criw ambiwlans traddodiadol.
“Rydym yn ddiolchgar i gomisiynwyr, Llywodraeth Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru am eu cefnogaeth i dyfu ein niferoedd Uwch Ymarferwyr Parafeddygol, ac edrychwn ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwnnw yn y dyfodol.”