27.01.26
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi datgelu rhai o’r galwadau difrys a wnaed i 999 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ymhlith y rhain roedd rhywun â gwddf tost, rhywun â dant sigledig a rhywun ag eli yn ei lygad.
Ffoniodd un person 999 oherwydd eu bod wedi llyncu cegolch ar ddamwain, tra bod un arall wedi ffonio gyda bachyn pysgota yn ei fys.
O’r 414,118 o ddigwyddiadau y llynedd, nid oedd 15% (62,454) yn briodol ar gyfer y gwasanaeth ambiwlans – tua un o bob saith.
Mae’r Ymddiriedolaeth yn atgoffa’r cyhoedd i ffonio 999 dim ond os yw rhywun yn ddifrifol wael neu wedi’i anafu.
Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth: “Mae ein staff medrus iawn wedi’u hyfforddi i ddelio â sefyllfaoedd lle mae angen ymyriadau ar unwaith oherwydd difrifoldeb cyflwr person.
“Mae hynny’n cynnwys pethau fel ataliad y galon, poen yn y frest, anawsterau anadlu, colli ymwybyddiaeth, tagu, gwaedu trychinebus a strôc.
“Pan fydd pobl yn ffonio 999 am bethau fel gwddf tost, mae’n cymryd amser gwerthfawr ein derbynwyr galwadau a’n clinigwyr, a allai fod yn helpu cleifion ag argyfwng gwirioneddol sydd angen cymorth brys.
“Mae ein neges yn un syml – defnyddiwch eich synnwyr cyffredin a helpwch ddiogelu ein hadnoddau gwerthfawr i’r rhai sydd ein hangen fwyaf.”
Ychwanegodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau: “Nid oedd angen ambiwlans ar yr holl alwadau a amlygwyd heddiw a gellid bod wedi’u rheoli gan wasanaeth mwy priodol.
“Mewn gwirionedd, ni fydd pobl â’r cyflyrau hyn yn cael eu gweld yn bersonol gennym ni o gwbl o dan ein model clinigol newydd – yn lle hynny, byddant yn cael cyngor dros y ffôn, gan ganiatáu inni flaenoriaethu a gwella ein hymateb i gleifion sy’n cael trawiadau ar y galon a strôc.
“Rydym yn deall pan fydd pobl yn poeni am eu hiechyd, gall emosiynau redeg yn uchel a gall hynny gymylu eich barn.
“Nid yw hyn yn ymwneud â rhoi’r bai, ond mae angen i bobl gymryd cyfrifoldeb am sut a phryd y defnyddir gwasanaethau.
“Mae’r gwasanaeth ambiwlans, fel adrannau argyfwng, yn bodoli ar gyfer sefyllfaoedd brys a sefyllfaoedd sy’n peryglu bywyd, ac nid yw wedi’i fwriadu ar gyfer salwch neu anafiadau arferol.
“Nid yw galw 999 yn golygu’n awtomatig y bydd ambiwlans yn cael ei anfon, yn union fel nad yw cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans yn golygu y cewch eich gweld yn gyflymach.
“Tra ein bod yn delio â galwad nad yw’n un brys, efallai bod person oedrannus wedi cwympo a thorri ei glun, gallai person yn ei arddegau fod mewn ataliad y galon neu efallai bod rhywun yn anymwybodol ar ôl gwrthdrawiad traffig ffordd difrifol.
“Y bobl hyn yw ein mamau, ein tadau, ein brodyr, ein chwiorydd, ein ffrindiau a’n cydweithwyr, felly cofiwch hynny a defnyddiwch 999 yn briodol.”
Mae’r Ymddiriedolaeth yn annog pobl i ddysgu am y dewisiadau amgen i 999.
Dylai gwefan GIG 111 Cymru fod eich man galw cyntaf am gyngor a gwybodaeth, neu gallwch ffonio 111.
Mae fferyllwyr yn cynnig cyngor am ddim a meddyginiaethau dros y cownter ar gyfer anhwylderau cyffredin, fel peswch ac annwyd, tra gall unedau mân anafiadau ddelio â llosgiadau, brathiadau a phigiadau bach, yn ogystal ag anafiadau bach i’r llygaid.
Mae hefyd yn bwysig cadw cwpwrdd meddyginiaethau wedi’i stocio’n dda ar gyfer pethau y gellir eu trin gartref, fel gwddf tost, a chadw gafael ar feddyginiaeth bresgripsiwn.
Dyma alwadau 999 go iawn a wnaed i'r gwasanaeth ambiwlans yn ystod y flwyddyn ddiwethaf:
Galwad 1
Derbynnydd: Ydy'r claf yn anadlu?
Galwr: Ie, fi yw'r claf. Roeddwn i'n garglo â chegolch i geisio cael gwared ar fy ffliw, ac aeth diferyn ohono i lawr fy ngwddf.
Galwad 2
Derbynnydd: Ambiwlans, beth yw cyfeiriad yr argyfwng?
Galwr: Mae gen i ddant molar sydd wedi dod allan o'i soced heno. Mae'n mynd i gwympo allan.
Galwad 3
Derbynnydd: Dywedwch wrthyf yn union beth sydd wedi digwydd.
Galwr: Roedd e’n trefnu ei offer pysgota ac mae bachyn pysgota wedi mynd trwy ei fys, does dim modd imi ei gael allan.
Galwad 4
Derbynnydd: Gwasanaeth ambiwlans, beth yw cyfeiriad llawn yr argyfwng?
Galwr: Roedd hi'n glanhau ei chlust gyda ffon gotwm ac rwy'n credu ei bod hi wedi'i wthio ychydig yn bell.
Galwad 5
Derbynnydd: Dywedwch wrthyf yn union beth sydd wedi digwydd.
Galwr: Cafodd e doriad bach ond mae'n teimlo'n benysgafn. Nid yw’n doriad mawr, mae’n un fach, ond mae'n teimlo'n benysgafn ac mae'n chwysu llawer.
Galwad 6
Galwr: Roedd yn gwrando gyda'i glustffonau ar ffôn, ac mae'r pen wedi dod i ffwrdd ac wedi mynd i mewn i'w glust.
Derbynnydd: Iawn, felly mae clustffon wedi mynd yn sownd yn ei glust, ydy hynny'n gywir?
Galwr: Wel, mae'n honni, ie.
Galwad 7
Derbynnydd: Dywedwch wrthyf yn union beth sydd wedi digwydd.
Galwr: Rydw i newydd roi eli o dan fy llygad. Mae’n bosibl bod yr eli wedi rhedeg i mewn i'm llygad a nawr dydw i ddim yn gallu agor fy llygad. Mae pelen fy llygad yn brifo.
Galwad 8
Derbynnydd: Dywedwch wrthyf yn union beth sydd wedi digwydd.
Galwr: Yn y bôn, rydw i newydd ddeffro ac alla i ddim llyncu na dim byd. Mae fy ngwddf i’n gwneud dolur.
Galwad 9
Derbynydd: Ydy'r claf yn anadlu?
Galwr: Ie, mae'n anadlu. Wnaeth o danio gwn hoelion, ac aeth yr hoelen i mewn i flaen ei fys.
Derbynydd: Oes unrhyw waedu difrifol?
Galwr: Ddim eto.
Galwad 10
Derbynydd: Dywedwch wrthyf yn union beth sydd wedi digwydd.
Galwr: Rydw i wedi cicio wal ac rwy'n credu fy mod i wedi torri rhai o fy mysedd traed. Rydw i mewn poen ar hyn o bryd.
Galwad 11
Galwr: Yr hyn sydd ei angen arna i mewn gwirionedd yw deintydd.
Derbynydd: Beth sydd wedi digwydd i'ch dant?
Galwr: Mae fy nant wedi torri, mae wedi mynd.
Derbynydd: Pryd ddigwyddodd hynny?
Galwr: Digwyddodd yr wythnos diwethaf. Dydw i ddim eisiau gwastraffu eich gwasanaethau. Rydw i ond am gael gweld deintydd yn y bore.
Nodiadau'r Golygydd
Gwnaed mân newidiadau i'r trawsgrifiadau hyn i ddiogelu cyfrinachedd cleifion.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi newid y ffordd y mae'n delio â galwadau 999.
Mae'r system categori galwadau pum haen newydd, sy'n cael ei threialu dros gyfnod o 12 mis, wedi'i chynllunio i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal cywir ar gyfer eu hanghenion.
• Porffor – Ataliad – ar gyfer cleifion sydd mewn ataliad y galon neu ataliad anadlol sydd angen ambiwlans ar unwaith.
• Coch – Argyfwng – ar gyfer cleifion sydd mewn perygl uchel o ataliad y galon neu ataliad anadlol, fel rhywun sy'n tagu, ac sydd hefyd angen cymorth ar unwaith.
• Oren – Nawr – ar gyfer cyflyrau difrifol sy’n gofyn am asesiad clinigol wyneb yn wyneb, profion a throsglwyddo i'r ysbyty neu ofal arbenigol, fel rhywun sydd ag amheuaeth o strôc.
• Melyn – Yn fuan – ar gyfer cleifion sydd angen asesiad mwy trylwyr dros y ffôn neu wyneb yn wyneb, fel rhywun â phoen yn yr abdomen. Gallent aros gartref neu gall y gwasanaeth drefnu cludiant i glinig neu ysbyty.
• Gwyrdd – Wedi'i gynllunio – ar gyfer galwadau llai brys, fel rhywun â haint yn y frest. Fel arfer gellir trin y cleifion hyn yn ddiogel gartref gyda'r gofal cywir gan wasanaethau lleol.
Darllenwch am Sut Mae Ein Gwasanaeth yn Newid i gael rhagor o wybodaeth.