13.06.2025
MAE rheolwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cael ei gydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd Ei Fawrhydi'r Brenin.
Mae Laura Charles, 48, Rheolwr Rheoli Dyletswydd sydd wedi'i lleoli yng Nghwmbrân, Torfaen, wedi derbyn Medal Gwasanaeth Ambiwlans y Brenin mawreddog am wasanaeth nodedig, cyhoeddwyd heno.
Symudodd Laura, sy'n dod o Fife yn yr Alban yn wreiddiol, i Gwmbrân yn 2001 ac ymgartrefodd yn yr ardal, cyn ymuno â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fel derbynnydd galwadau yn 2007.
Dechreuodd Laura ei gyrfa yn ystafell reoli Mamhilad, fel trinwr galwadau 999 cyn symud i Vantage Point House yn 2009 pan unodd y ddwy ystafell reoli.
Yna daeth yn Anfonwr ac erbyn 2016, roedd wedi symud ymlaen i rôl Dyrannwr, gan ennill profiad a gwybodaeth eang mewn swyddogaethau yr ystafell reoli.
Yn 2022, cymerodd Laura rôl Rheolwr Sifft ar gyfer ardal y de-ddwyrain cyn dod yn Rheolwr Gweithrediadau ym mis Tachwedd 2024.
Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydym wrth ein bodd ac yn hynod falch bod Laura wedi cael ei chydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Brenin.
“Dros bron i ddau ddegawd o wasanaeth ymroddedig, mae Laura wedi dangos arweinyddiaeth ragorol ac ymrwymiad diysgog.
“Mae hi wedi ysbrydoli’r rhai o’i chwmpas yn gyson gyda’i hangerdd, ei huniondeb a’i brwdfrydedd ac mae ei phositifrwydd heintus yn ysgogi cydweithwyr i roi eu gorau glas, gan gyfrannu at ddarparu gofal eithriadol i bobl Cymru.”
Ychwanegodd Gill Pleming, Pennaeth Gwasanaeth Cydgysylltu EMS yr Ymddiriedolaeth: “Mae ymrwymiad a chymhelliant Laura yn amlwg, a hi yw ymgorfforiad proffesiynoldeb i gydweithwyr a’n cleifion.
“Mae hi’n cael ei pharchu’n fawr gan y rhai y mae’n eu harwain, yn ogystal â chyfoedion, a chydweithwyr eraill o fewn y sefydliad.
“Mae cyflawniadau Laura yn wirioneddol gynrychioliadol o’r cyfraniad y mae wedi’i wneud at wella profiad cleifion yn ogystal â gwella’r amgylchedd gwaith i’w thimau.”
Mae Laura hefyd yn cefnogi’r Ymddiriedolaeth trwy godi proffil y sefydliad mewn ysgolion, colegau ac mewn digwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus i hyrwyddo cyfleoedd gyrfa.
Ychwanegodd Gill: “Mae hi’n eiriolwr gwirioneddol dros weithio mewn Canolfan Cydgysylltu Argyfyngau.
“Mae hi’n cynrychioli popeth y byddech chi ei eisiau a’i ddisgwyl gan gydweithiwr gwasanaeth ambiwlans proffesiynol.
“Ar ran pawb sydd wedi cael y pleser o weithio gyda Laura, hoffwn ei llongyfarch ar yr anrhydedd haeddiannol hon.”