24.10.2025
MAE arweinydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cael ei chydnabod gyda Gwobr Arweinydd Pobl yng Ngwobrau Arloeswyr Diwylliant eleni (Culture Pioneer Awards).
Derbyniodd Angie Lewis, Cyfarwyddwr Newid yr Ymddiriedolaeth, y wobr am ei harweinyddiaeth wrth helpu’r sefydliad cryfhau ei ddiwylliant trwy ganolbwyntio ar onestrwydd, tosturi a dysgu parhaus ar draws y gwasanaeth.
Mae Gwobrau Arloeswyr Diwylliant yn dathlu arweinwyr sy’n llunio gweithleoedd cynaliadwy, sy’n canolbwyntio ar bobl, sy’n fuddiol i gydweithwyr a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu.
Wrth gyhoeddi’r enillydd, fe wnaeth y trefnwyr ganmol Angie am ei dull arwain tosturiol a seiliedig ar werthoedd mewn amgylchedd lle mae gwaith tîm, ymddiriedaeth a lles yn hanfodol i ddarparu gofal diogel o ansawdd uchel.
Trwy ei gwaith, mae Angie wedi annog diwylliant lle mae cydweithwyr yn teimlo eu bod wedi’u grymuso i godi llais, rhannu syniadau a llunio newid cadarnhaol.
Mae hyn yn cynnwys mentrau fel y Rhwydwaith Lleisiau, adeiladu cymuned hyrwyddwyr diwylliant ffyniannus, yn ogystal â gwaith parhaus i ymgorffori egwyddorion diogelwch seicolegol, rheoli newid effeithiol, cynhwysiant a dysgu.
Wrth fyfyrio ar y wobr, dywedodd Angie: “Mae’n fraint derbyn y gydnabyddiaeth hon ond mae’n perthyn i bawb yn WAST sy’n cyfrannu at wneud ein sefydliad yn lle gwych i weithio.
“Mae newid diwylliant yn daith barhaus.
“Rydym yn falch o’r cynnydd rydym wedi’i wneud o ran gwrando, dysgu a chryfhau ymddiriedaeth a byddwn yn parhau i feithrin hynny, fel bod pob cydweithiwr yn teimlo eu bod yn gallu dod i’r gwaith fel nhw eu hunain a darparu’r gofal gorau posibl i’n cymunedau.”
Dywedodd Emma Wood, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae Angie wedi bod yn allweddol wrth ein helpu i esblygu ein diwylliant.
“Mae ei hangerdd, ei empathi a’i hymrwymiad i’n pobl yn glir i bawb eu gweld ac mae hi wedi bod yn ffigur allweddol wrth gefnogi cydweithwyr i deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu gwerthfawrogi a’u parchu.
“Mae’n hyfryd gweld Angie yn cael ei chydnabod am y gwaith gwych y mae wedi’i wneud, a gwn nad fi yw’r unig un sy’n dweud bod hon yn wobr haeddiannol iawn.
“Mae’r wobr hon hefyd yn adlewyrchu’r ymdrech a rennir ar draws y Gwasanaeth sydd wedi ymrwymo i adeiladu gweithle cefnogol, agored a thosturiol.”