Neidio i'r prif gynnwy

Arhoswch yn ddiogel a mwynhewch Noson Tân Gwyllt lachar

03.11.2025

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog pobl i gadw’n ddiogel y Noson Tân Gwyllt hon.

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn atgoffa pobl ledled Cymru i ddathlu’n ddiogel y Noson Tân Gwyllt hon wrth i griwiau brys baratoi ar gyfer un o nosweithiau prysuraf y flwyddyn.

Yn draddodiadol, ar Noson Tân Gwyllt mae cynnydd sydyn yn nifer y galwadau i 999 ac i GIG 111 Cymru, gyda digwyddiadau’n amrywio o anafiadau sy’n gysylltiedig â thân gwyllt i losgiadau ac anadlu mwg.

Ar Noson Tân Gwyllt y llynedd, derbyniodd yr Ymddiriedolaeth 1,142 o alwadau brys 999 a 1,763 o alwadau difrys pellach i GIG 111 Cymru dros yr un cyfnod 24 awr hwnnw.

Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae Noson Tân Gwyllt yn noson llawn pwysau i bob gwasanaeth brys ledled Cymru, felly rydym yn gofyn i’r cyhoedd gymryd gofal ychwanegol, dilyn canllawiau diogelwch, a helpu i amddiffyn eu hunain, eu teuluoedd a’u cymunedau.

“Mae modd atal llawer o anafiadau, yn enwedig llosgiadau, trwy ddilyn y Cod Tân Gwyllt a chymryd rhagofalon syml.

Os byddwch yn dioddef llosgiad, mae’n bwysig gweithredu’n gyflym ac yn gywir.”

Os byddwch yn dioddef llosgiad, dilynwch y camau canlynol:

 

  • Symudwch y person i ffwrdd o’r ffynhonnell wres.

 

  • Oerwch y llosgiad gyda dŵr oer neu glaear am 20 munud ond peidiwch â defnyddio iâ, hufenau na sylweddau seimllyd.

 

  • Tynnwch unrhyw ddillad neu emwaith ger yr ardal sydd wedi’i llosgi, oni bai ei fod wedi mynd yn sownd wrth y croen.
     
  • Cadwch y person yn gynnes gyda blanced, ond peidiwch â chyffwrdd â’r llosgiad.

 

  • Gorchuddiwch y llosgiad gyda ffilm lynu neu fag plastig glân.

 

  • Defnyddiwch boenladdwyr fel paracetamol neu ibuprofen i leddfu’r poen.

 

  • Ewch ‘r dudalen Llosgiadau a Sgaldiadau ar y wefan GIG 111 Cymru am gyngor pellach.

 

  • Ffoniwch 999 ar gyfer argyfyngau difrifol neu lle mae bywyd yn y fantol yn unig.

 

Ewch i arddangosfeydd proffesiynol:

Lle bo’n bosibl, mynychwch ddigwyddiadau tân gwyllt wedi’u trefnu a’u rheoli’n broffesiynol gan eu bod yn fwy diogel nag arddangosfeydd cartref.

I bobl ag asthma:

 

  • Cariwch eich anadlydd bob amser.

 

  • Gwnewch yn siŵr bod ffrindiau a theulu yn gwybod beth i’w wneud os yw’ch symptomau’n gwaethygu.

 

  • Peidiwch â sefyll ymysg y mwg a chadwch bellter i ffwrdd o goelcerthi i leihau’r siawns o anadlu mwg.

 

  • Gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn gyda sgarff i gynhesu’r aer cyn anadlu.

 

  • Ystyriwch aros dan do os yw tân gwyllt neu fwg wedi sbarduno’ch symptomau o’r blaen.

 

  • Ewch i’r dudalen Asthma ar wefan GIG 111 Cymru am ragor o ganllawiau.

 

Parchwch weithwyr brys

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd yn annog y cyhoedd i ddangos parch ac ystyriaeth i weithwyr brys y Noson Tân Gwyllt hon.

Ychwanegodd Judith: “Rydym yn gwybod bod galwadau i wasanaethau brys yn cynyddu’n sylweddol o gwmpas Noson Tân Gwyllt, gydag adroddiadau am anafiadau, ymddygiad gwrthgymdeithasol, a thanau heb oruchwyliaeth.

“Efallai y bydd yn rhaid i’n criwiau dynnu’n ôl o leoliad os yw eu diogelwch mewn perygl, sydd ddim o werth i neb, yn enwedig y claf.

“Gall gweithred ymosodol un eiliad gael effeithiau corfforol ac emosiynol parhaol ar ein staff, felly gweithiwch gyda ni, nid yn ein herbyn.

“Gadewch i ni wneud y Noson Tân Gwyllt hon yn un gofiadwy am y rhesymau cywir trwy aros yn ddiogel, gweithredu’n gyfrifol a gofalu am ein gilydd.”