27.10.2025
MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog pobl ledled Cymru i ddathlu Calan Caeaf yn ddiogel ac yn gyfrifol.
Yn draddodiadol, mae Calan Gaeaf yn nodi un o gyfnodau prysuraf y flwyddyn i’r gwasanaeth a’r llynedd, yn y cyfnod rhwng 31 Hydref a 5 Tachwedd, derbyniodd yr Ymddiriedolaeth 7,050 o alwadau 999 brys ynghyd â 14,323 o alwadau di-frys i GIG 111 Cymru.
Dywedodd Sonia Thompson, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae Calan Gaeaf yn adeg cyffrous i lawer o bobl, ond gall hefyd fod yn hynod brysur i’n timau.
“Wrth i ni agosáu at Galan Gaeaf, rydym yn annog pawb i flaenoriaethu eu diogelwch eu hun, eu teulu ac eraill, ac i alw 999 dim ond os bydd argyfwng difrifol neu lle mae bywyd yn y fantol.”
“Gyda rhai rhagofalon syml, gall pob un ohonom ni helpu i sicrhau bod Calan Gaeaf yn bleserus ac yn ddiogel.”
I gefnogi’r cyhoedd i arhos yn ddiogel y Calan Gaeaf hwn, mae’r Ymddiriedolateh wedi cyhoeddi’r cyngor canlynol:
- Wrth wisgo i fyny, dewiswch liwiau llachar neu ychwanegwch deunyddiau sy’n adlewyrchu’r golau i gynyddu gwelededd, yn enwedig wrth gerdded yn agos at yr hewl.
- Mae cyllyll yn finiog, felly cadwch bysedd plant bach i ffwrdd pan fyddwch yn cerfio eich pwmpen Calan Gaeaf.
- Cariwch fflachlamp neu defnyddiwch eich ffôn symudol i oleuo eich ffordd mewn ardaloedd tywyll.
- Dylai plant ifanc alln yn chwarae cast neu geiniog Young trick-or-treaters should always be accompanied by a responsible adult.
- Ewch i strydoedd sydd wedi’u goeluo’n dda ac osgowch ardaloedd anghyfarwydd neu rai heb lawer o olau.
- Atgoffir gyrwyr i fod yn ofalus iawn ar noson Galan Gaeaf, pan ddisgwylir i fwy o gerddwyr, yn enwedig plant, fod allan.
- Gyrrwch yn ofalus, cadwch at derfynau cyflymder, ac arhoswch yn wyliadwrus bob amser.
- Defnyddwich oleuadau LED batris yn lle canhwyllau i oleuo pwmpenni ac addurniadau, gan leihau’r risg o dân ac anaf.
- Dewiswch paent gwyneb yn hytrach na masgiau i wella gwelededd a chysur lle bynnag y bo modd. Fodd bynnag, mae rhai paentiau wyneb yn wenwynig a gallant achosi adweithiau alergaidd. Darllenwch y label a cheisiwch brynu colur neu baent sy’n organig neu wedi’i wneud gyda chynhwysion naturiol.
- Byddwch yn ystyriol o aelodau yn y gymuned sy’n agored i niwed, gan gynnwys hen bobl, a allai deimlo’n anghyffyrddus gyda gweithgareddau Calan Gaeaf.
- I’r rhai sy’n mynychu neu’n cynnal partïon Calan Gaeaf, yfwch yn gyfrifol.
- Trefnwch yrrwr dynodedig neu ddull trafnidiaeth arall bob amser os ydych yn yfed alcohol ac ystyriwch ddarparu opsiynau di-alcohol i westeion.
Ychwanegodd Sonia: “Cofiwch mai dim ond ar gyfer argyfyngau difrifol neu lle mae bywyd yn y fantol y dylid defnyddio 999.
“Ar gyfer cyngor meddygol di-frys, mae gwefan GIG 111 Cymru, eich meddyg teulu neu’ch fferyllydd lleol ar gael i gynorthwyo.
Mae GIG 111 Cymru hefyd wedi cyflwyno cynorthwyydd rhithwir newydd i helpu defnyddwyr cael y cyngor iechyd cywir, yn gyflym.
“Drwy ddilyn y camau syml hyn, gall pawb fwynhau Calan Gaeaf yn ddiogel.”