Neidio i'r prif gynnwy

Categorïau ymateb newydd ar gyfer ambiwlansys er mwyn gwella canlyniadau cleifion strôc

17.07.25

NOD y newidiadau i’r ffordd y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymateb i alwadau yw gwella’r gofal i gleifion sy’n dioddef strôc neu gyflyrau difrifol eraill fel trawiadau ar y galon.


Bydd categori newydd ‘oren: sensitif o ran amser’ yn blaenoriaethu asesu, ymateb, gofal clinigol a chludiant cyflym, gan sicrhau bod cleifion yn cyrraedd gofal arbenigol yn gyflym.

Ar hyn o bryd, mae unigolion sydd wedi cael strôc neu STEMI, math o drawiad ar y galon, wedi’u cynnwys yn y categori eang ‘ambr’ ynghyd â llawer o achosion eraill, sy’n cynrychioli 70% o’r holl alwadau 999 a wneir i’r gwasanaeth ambiwlans.

O dan y dull gweithredu newydd, bydd ‘sgrinio clinigol cyflym’ a fydd yn cael ei roi ar waith gan nyrsys a pharafeddygon mewn canolfannau cyswllt clinigol 999 yn helpu i adnabod cyflyrau sy’n sensitif o ran amser yn gyflymach ac anfon clinigwyr ambiwlans medrus i roi’r gofal clinigol gorau i gleifion mewn cerbydau sy’n gallu eu cludo i’r ysbyty yn gyflym.

Bydd hyn yn rhoi i ddefnyddwyr gwasanaeth y siawns orau o ganlyniadau gwell.

Mae’r newidiadau yn disodli’r categorïau cyfredol gyda’r canlynol:

‘Oren: sensitif o ran amser’ - ar gyfer cyflyrau fel strôc sydd angen ymateb cyflym a gofal gan glinigwyr ambiwlans cyn cludo’r claf i’r ysbyty i gael gofal arbenigol.
‘Melyn: asesu ac ymateb’ - ar gyfer cyflyrau y mae angen asesiad clinigol pellach i benderfynu ar y llwybr gofal gorau, er enghraifft, person sy’n dioddef o boen yn yr abdomen a allai fod yn addas i aros gartref neu a allai fod angen ymchwiliadau pellach.
‘Gwyrdd: ymateb wedi’i gynllunio’ - ar gyfer cyflyrau fel cathetr wedi blocio a allai fod angen gofal cymunedol neu gludiant wedi’i gynllunio i wasanaethau gofal brys.

Disgwylir i’r categorïau newydd, sy’n disodli’r categori ambr presennol, gael eu rhoi ar waith cyn y gaeaf eleni yn rhan o fframwaith perfformiad newydd ar gyfer ambiwlansys brys.

O ran achosion o strôc a STEMI, bydd mesurau ychwanegol yn olrhain y gofal clinigol a ddarperir gan y gwasanaeth ambiwlans a hyd y cyfnod amser o’r alwad 999 i gyrraedd yr ysbyty.

Bydd camau monitro ac adrodd hefyd yn cynnwys yr amseroedd ymateb cyfartalog a’r amseroedd ymateb hiraf.

Mae hyn yn dilyn y cam cyntaf ar gyfer gwella’r ymateb i alwadau am ambiwlans a gyflwynwyd ar 1 Gorffennaf.

Sefydlwyd categorïau newydd ar gyfer ataliad ar y galon, ataliad anadlol ac argyfyngau sy’n peryglu bywyd.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles: “I bobl sydd wedi cael strôc, mae pob munud yn cyfri os ydyn ni am achub bywydau a lleihau neu atal anabledd - gyda phob munud sy’n pasio, mae tua dwy filiwn o gelloedd yr ymennydd yn cael eu colli.

“Dyna pam rydyn ni’n cyflwyno categori oren newydd i’r system a fydd yn helpu ein gwasanaeth ambiwlans i adnabod yn gyflym gyflyrau sy’n sensitif o ran amser fel strôc a sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth arbenigol gywir yn gyflymach.

“Bydd hyn yn helpu i wneud yn siŵr bod pobl sy’n dioddef strôc yn cael yr ymateb cyflym ac wedi’i deilwra sydd ei angen arnyn nhw i oroesi, gwella a chryfhau wedi hynny.”

Er mwyn helpu pobl sydd â chyflyrau sy’n sensitif o ran amser fel strôc i gael ymateb prydlon gan y gwasanaeth ambiwlans a chael y gofal cywir yn gyflym, mae cynllun brysbennu drwy fideo cyn cyrraedd yr ysbyty yn cael ei dreialu mewn pum gwasanaeth strôc yng Nghymru gyda chymorth y gwasanaeth ambiwlans.

Mae’n galluogi clinigwyr sy’n darparu gofal cyn cyrraedd yr ysbyty, megis clinigwyr ambiwlans, ac arbenigwyr strôc yn yr ysbyty i gyfathrebu mewn amser real, er mwyn gwella asesiadau a diagnosis o strôc.

Mae canfyddiadau cynnar yn dangos ei fod yn ategu’r prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau clinigol, yn gwella gwybodaeth cyn cyrraedd ar gyfer timau ysbytai, gan felly gyflymu’r gwaith o roi triniaethau sy’n achub bywydau a newid bywydau.

Mae Byrddau Iechyd hefyd yn parhau i ddatblygu model newydd ar gyfer gofal strôc.

Ers 1 Gorffennaf, mae Ysbyty Athrofaol Cymru wedi bod yn darparu gwasanaeth thrombectomi yn ystod y dydd ar gyfer de Cymru.

Mae’r categori newydd ‘oren: sensitif o ran amser’, ynghyd â brysbennu drwy fideo cyn cyrraedd yr ysbyty, cyflwyno deallusrwydd artiffisial i gynorthwyo diagnosis cyflymach o strôc, a Gwasanaeth Thrombectomi Rhanbarthol newydd yn ystod y dydd ar gyfer y De, yn gamau pwysig tuag at fodel wedi’i drawsnewid ar gyfer gofal strôc yng Nghymru.

Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad hwn gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â chreu categorïau newydd a’r canolbwyntio parhaus ar ganlyniadau cleifion, ac nid dim ond ar amseroedd ymateb.

“Mae natur y galwadau 999 y mae pobl yn eu gwneud wedi newid ac mae’n bwysig adlewyrchu hyn yn y ffordd rydyn ni’n ymateb, yn gyntaf oll i gynyddu nifer yr ambiwlansys sydd ar gael ar gyfer y rhai sydd wir eu hangen ond hefyd i sicrhau bod cleifion y gellir gofalu amdanyn nhw yn agosach i’r cartref yn cael y cyfle hwnnw.

“Mae’r newid diweddaraf hwn, sy’n adeiladu ar y newidiadau sydd eisoes wedi’u cyflwyno ar gyfer y galwadau sy’n peryglu bywyd fwyaf, yn gam arall tuag at greu’r fframwaith i gyflawni hyn.”

Dywedodd Dr Shakeel Ahmad, arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer strôc yng Nghymru: “Pan fo claf yn cael strôc, mae’n hanfodol ei fod yn cael triniaeth gyflym ac ar frys gan fod pob eiliad yn cyfri.

“Nod hyn yw adfer llif y gwaed i’r ymennydd ar gyfer y cleifion hynny sy’n gymwys i gael triniaethau i chwalu neu gael gwared ar glotiau gwaed o’r ymennydd.

“Bydd y categori newydd ‘oren: sensitif o ran amser’ yn gallu blaenoriaethu cleifion strôc sydd angen y driniaeth frys hon.

“Mae’r newidiadau i’r categorïau yn gamau pwysig tuag at fodel wedi’i drawsnewid ar gyfer gofal strôc yng Nghymru. Bydd hyn yn gwella’r llwybr strôc gan arwain at fwy o gleifion yn cael triniaethau sy’n newid bywyd yn brydlon.”