15.12.25
Bydd staff Gwasanaethau Ambiwlans Cymru sy’n gweithio ar ddydd Nadolig yn cael cinio Nadoligaidd traddodiadol eto elenim diolch i Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a llu o fusnesau lletygarwch lleol.
Eleni, bydd mwy na 700 o aelodau staff yn mwynhau ciniawau Nadolig wedi’u paratoi gan dafarndai, gwestai a bwytai ledled Cymru i ddangos gwerthfawrogiad i'r rhai sydd ar ddyletswydd ar 25 Rhagfyr.
Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r fenter wedi bod yn bosibl trwy roddion i Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.
Dywedodd David Hopkins, Pennaeth yr Elusen: “Diolch i bawb sydd wedi rhoi i Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn 2025.
“Diolch i’ch haelioni, rydym yn gallu rhoi arwydd bach o werthfawrogiad i’n staff sy’n gweithio ar Ddydd Nadolig.
“Dyma un o’r ffyrdd y mae Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cefnogi staff a gwirfoddolwyr, drwy gydol y flwyddyn.”
Bydd cydweithwyr sy'n gweithio sifftiau dydd ar draws mwy nag 80 o orsafoedd ambiwlans, canolfannau cyswllt clinigol, a safleoedd gweithredol eraill yn derbyn pryd Nadoligaidd, gyda rhai yn cael eu darparu'n rhad ac am ddim gan fwytai lleol.
Mae'r cynnig yn ymestyn i staff yn y Gwasanaeth Meddygol Brys, y Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys, yr Adrannau Ymbaratoi, yr Uned Cyflawni Gweithredol, a'r Canolfannau Cyswllt Clinigol, gan gynnwys y rhai sy'n gweithio i GIG 111 Cymru a Desg Cymorth Clinigol yr Ymddiriedolaeth.
Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau: “Rydyn ni wedi bod yn trefnu ciniawau Nadolig ers ychydig flynyddoedd bellach ac maen nhw bob amser yn cael eu derbyn yn ddiolchgar.
“Unwaith eto, rydym yn hynod ddiolchgar i’r holl dafarndai, gwestai a bwytai sydd wedi cytuno’n garedig i’n cefnogi, mae’n golygu llawer iawn.
“Fel gwasanaeth ambiwlans, rydyn ni’n gweithredu 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, sy’n golygu na fydd pawb yn gallu mwynhau cinio Nadolig gartref gyda’u hanwyliaid.
“Mae hwn yn arwydd bach i ddiolch i’n pobl ar ddydd Nadolig, ac rwy’n gobeithio ei fod yn dangos ar ran y sefydliad a’n cleifion pa mor ddiolchgar ydym i gydweithwyr am y gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu.”
Bydd yr Ymddiriedolaeth hefyd unwaith eto yn anfon talebau archfarchnad i bob amgylchedd gweithredol gan gynnwys canolfannau cyswllt i alluogi cydweithwyr i brynu danteithion Nadoligaidd.
Dim ond diolch i roddion hael y cyhoedd er budd Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru y mae'r ciniawau Nadolig a'r pethau Nadoligaidd arbennig hyn i gydweithwyr yn bosibl.
Os hoffech chi gefnogi'r Elusen, gallwch chi wneud rhodd yma: Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru