Neidio i'r prif gynnwy

Cyflymach, gwyrddach, mwy dibynadwy: £23.1m ar gyfer fflyd ambiwlansys Cymru

19.02.26

Bydd ambiwlansys a cherbydau ymateb newydd ar y ffordd yn fuan diolch i fuddsoddiad o £23.1 miliwn gan Lywodraeth Cymru.

Bydd y cyllid yn talu am 160 o gerbydau ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru - 50 o ambiwlansys brys newydd, 40 o gerbydau un ymatebydd, 67 o Gerbydau Cludo Cleifion Di-frys, a thri cherbyd Tîm Ymateb mewn Ardaloedd Peryglus arbenigol.

Mae cerbydau newydd yn bodloni'r safonau allyriadau diweddaraf, gan adlewyrchu ymrwymiad Cymru i aer glanach ac allyriadau carbon is. Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau i ehangu ei rwydwaith gwefru cerbydau trydan ac wedi cyflwyno paneli solar, peiriannau hybrid, a cherbydau trydan batri ar draws rhannau o'i fflyd.

Mae'r buddsoddiad yn rhan o raglen foderneiddio barhaus Gwasanaeth Ambiwlans Cymru.

Mae'r gwasanaeth hefyd wedi bod yn treialu dronau diffibriliwr i gyrraedd pobl mewn rhannau mwy gwledig o Gymru, gan ddefnyddio ymgynghoriadau fideo i asesu cleifion o bell, ac archwilio'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial i gefnogi trinwyr galwadau 999, gan sicrhau bod pobl yn derbyn gofal cyflymach a mwy craff.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: “Pan fydd rhywun yn deialu 999, mae angen iddyn nhw wybod bod cymorth ar y ffordd. Mae’r buddsoddiad hwn yn sicrhau bod gan ein gwasanaeth ambiwlans y fflyd fodern a dibynadwy sydd ei hangen arno i fod yno i bobl ledled Cymru.

“Rydym hefyd yn gwneud cynnydd ar ein hymrwymiadau amgylcheddol, gyda cherbydau glanach a gwyrddach yn helpu i leihau allyriadau carbon wrth ddarparu’r gofal brys o ansawdd uchel y mae pobl yn ei ddisgwyl.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Chris Turley: “Mae’r buddsoddiad parhaus hwn yn ein fflyd yn golygu y gallwn ddarparu gwasanaeth mwy dibynadwy i bobl Cymru.

"Mae ambiwlansys modern yn fwy dibynadwy, wedi'u cyfarparu'n well i gefnogi gofal cleifion a darparu amgylchedd gwaith mwy diogel a chyfforddus i'n staff."

“Fel y gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol, sy’n cwmpasu 8,000 milltir sgwâr, rydym hefyd yn falch o fod yn chwarae ein rhan wrth leihau ein hôl troed amgylcheddol. O gerbydau trydan i baneli solar, rydym wedi ymrwymo i adeiladu fflyd fwy gwyrdd ar gyfer y dyfodol.”