Neidio i'r prif gynnwy

Dyn o Fro Morgannwg yn aduno â'r dieithryn a achubodd ei fywyd

13.01.26

Mae dyn o Fro Morgannwg a gafodd ataliad y galon wrth fynd a’i gŵn am dro wedi aduno â’r fenyw a oedd yn mynd heibio a helpodd achub ei fywyd.


Roedd Alan Hale, 75, yn cerdded ei ddau Shih-Tzu yn Sili fore Sadwrn ym mis Rhagfyr pan lewygodd heb rybudd.

Stopiodd Rachel Green, a oedd yn gyrru i gampfa gyfagos, ei char ar ôl gweld y ddau gi yn rhedeg yn rhydd.

Pan sylweddolodd fod Alan yn cael ataliad y galon, ffoniodd 999 a dechrau rhoi cywasgiadau ar y frest ar unwaith.

Dywedodd Rachel, 39, o Landochau: “Yr unig beth a welais i ddechrau oedd dau gi a’r bag cefn ar ochr y ffordd, a meddwl bod hynny’n rhyfedd.

“Stopiais y car i gael golwg mwy manwl a dyna pryd welais i ddyn a oedd wedi cwympo wyneb i lawr.

“Fe wnes i ei rolio drosodd ac ro’n i’n gallu gweld o’i anadlu llafurus ei fod yn ddifrifol, felly ffoniais 999, a esboniodd wrtha i sut i roi cywasgiadau ar y frest.”

Pan fydd rhywun yn cael ataliad y galon, maen nhw’n llewygu ac yn mynd yn anymatebol.

Maen nhw naill ai'n stopio anadlu'n llwyr, neu efallai y byddant yn anadlu’n drwm neu'n anadlu’n anaml am rai munudau, y gellir e gamgymryd fel chwyrnu.

Os ydych chi’n gweld rhywun yn cael ataliad y galon, ffoniwch 999 a dechreuwch CPR.

Bydd triniwr galwadau ambiwlans yn dweud wrthych ble mae eich diffibriliwr agosaf.

Ar yr achlysur hwn, roedd yng nghyfadeilad fflatiau Hayes Point gerllaw, lle mae Alan yn byw, a chafodd ei adfer gan y gofalwr tir Ryan Harrison.

Dywedodd Rachel, sy’n fam i ddau o blant: “Roedd yn ymdrech tîm go iawn, a chawson ni gymorth hefyd gan nyrs oddi ar ddyletswydd ac aelod arall o’r cyhoedd a helpodd i roi CPR.

“Gyda’n gilydd, fe wnaethon ni roi un sioc i Alan, a oedd i bob golwg yn adfer ei guriad calon.

“Pan glywais ei fod wedi goroesi, roedd yn foment o falchder, er yn brofiad swrrealaidd iawn.”

Cafodd Alan ei sefydlogi gan griwiau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, gyda chefnogaeth y Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS) Cymru, a'i gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd, lle gosodwyd pedwar stent iddo a threuliodd 10 diwrnod yn gwella.

Ddoe, cafodd ei aduno â Rachel a’r criw ambiwlans am y tro cyntaf.

Dywedodd Alan, brodor o Birmingham ac yn dad i ddau o blant: “Does gen i ddim atgof o gwbl o’r bore hwnnw, heblaw am fynd â’r cŵn am dro.

“Wnes i gyrraedd allanfa’r cyfadeilad ac yna, mae’n debyg, wnes i gwympo i’r llawr fel tunnell o frics – doedd gen i ddim symptomau o gwbl.

“Mae fy niolch diffuant yn mynd i Rachel, a phawb a chwaraeodd ran y diwrnod hwnnw.

“Rwy’n ddyledus fy mywyd iddyn nhw.”

Dywedodd Emma Wood, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae pob eiliad yn cyfrif mewn ataliad y galon, ac mae ymateb cyflym Rachel a Ryan a’u parodrwydd i weithredu wedi achub bywyd Alan heb os.

“Mae’r digwyddiad hwn yn amlygu pa mor bwysig yw CPR cynnar a diffibrilio, ac mae’n atgoffâd pwerus y gall aelodau’r cyhoedd olygu’r gwahaniaeth rhwng bywyd a marwolaeth, a’u bod nhw’n gwneud hynny.

“Rydym yn hynod falch o Rachel, Ryan a phawb a oedd yn rhan o’r ymdrech tîm nodedig hon.”


Nodiadau gan y golygydd
YN Y LLUN (O'r chwith i'r dde): Technegydd meddygol brys Jim Holland, gofalwr tir Hayes Point Ryan Harrison, y claf Alan Hale, cerddwr Rachel Green, cynorthwywyr gofal ambiwlans Laura Morton a Kirsty Hewitson a'r parafeddyg Stephen Banks.

Digwyddodd ataliad y galon Alan ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr 2025.

Mae Resusitation Council UK wedi cynhyrchu canllaw cam wrth gam ar sut i wneud CPR: How to do CPR | Resuscitation Council UK

Rhaid i bob diffibriliwr newydd a phresennol fod wedi’i gofrestru ar y rhwydwaith diffibrilwyr cenedlaethol The Circuit er mwyn i drinwyr galwadau 999 allu gweld eu lleoliad: The Circuit | Sefydliad Prydeinig y Galon