Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal cyfarfod eithriadol y Bwrdd

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal cyfarfod eithriadol Bwrdd yr Ymddiriedolaeth.

Gall y cyhoedd ymuno ar Microsoft Teams i wrando ar aelodau'r Bwrdd yn cymeradwyo newidiadau pellach i'r ffordd y mae galwadau 999 yn cael eu categoreiddio, a fydd yn dod yn fyw ym mis Rhagfyr.

Mae categorïau Oren, Melyn a Gwyrdd newydd, sy'n adeiladu ar y categorïau Porffor a Choch a gyflwynwyd eisoes ym mis Gorffennaf ar gyfer y galwadau sy'n peryglu bywyd fwyaf, wedi'u cynllunio i wella gofal i gleifion a sicrhau eu bod yn cael yr ymateb cywir ar gyfer eu hanghenion.

Mae'r newidiadau mewn ymateb i fesurau perfformiad newydd gan Lywodraeth Cymru sy'n cynrychioli ffocws ar ansawdd gofal, yn hytrach na’r amser mae'n cymryd i ambiwlans gyrraedd. 

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae natur sut mae cleifion yn cyflwyno eu hunain i 999 wedi newid ac mae'n bwysig adlewyrchu hyn yn y ffordd rydym yn ymateb, yn gyntaf ac yn bennaf i gynyddu argaeledd ambiwlansys i'r rhai sydd wir ei angen ond hefyd i sicrhau bod cleifion y gellir gofalu amdanynt yn agosach at adref yn cael y cyfle hwnnw.

“Mae gwasanaeth ambiwlans heddiw yn darparu gofal llawer mwy soffistigedig, felly mae symud y ffocws i faint o bobl sy’n goroesi argyfwng lle mae bywyd yn y fantol oherwydd ein hymyriadau, yn hytrach na dim ond faint o funudau mae’n eu cymryd i ni gyrraedd y lleoliad, yn gam pwysig i adlewyrchu hynny.

“Mae cydweithwyr ar draws y sefydliad yn gweithio'n galed i sicrhau ein bod ni'n barod i 'fynd yn fyw' ym mis Rhagfyr, a byddwn ni'n clywed am y paratoadau hynny yng nghyfarfod y Bwrdd.

“Mae ein cyfarfodydd Bwrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau tryloywder a didwylledd ym mhopeth a wnawn, a byddem yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn y newidiadau sydd ar ddod i ymuno â ni’n rhithwir i ddarganfod mwy.”

Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd ddydd Iau 23 Hydref 2025 o 12.30pm tan 1pm.

Cynghorir gwylwyr y bydd y ddolen hon ond yn gweithio 10 munud cyn i'r cyfarfod ddechrau.

Bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.