Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal ei Gyfarfod Bwrdd deufisol

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei gyfarfod Bwrdd deufisol.

Gwahoddir y cyhoedd i ymuno ar Microsoft Teams i wrando ar uwch arweinwyr yn trafod y Cynllun Tymor Canolig Integredig, sy'n nodi nodau ac uchelgeisiau allweddol y sefydliad ar gyfer y tair blynedd nesaf.

Yn allweddol i gynllun 2025-2028 mae esblygiad model clinigol yr Ymddiriedolaeth a’i nod i ddarparu’r gofal neu’r cyngor iawn, yn y lle iawn, bob tro.

Bydd aelodau’r Bwrdd yn cymeradwyo amcanion llesiant cyntaf erioed yr Ymddiriedolaeth, sy’n rhan bwysig o’i dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, a bydd hefyd yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y fenter Llefaru’n Ddiogel, a gynlluniwyd i gefnogi cydweithwyr i siarad yn ddiogel ac yn gyfrinachol er mwyn amddiffyn cleifion, y cyhoedd a gweithlu ehangach y GIG.

Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiwn i'r Bwrdd.

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae cyfarfodydd bwrdd yn gyfle i ddysgu am ein gwasanaeth ambiwlans ac i ddeall y prosesau y tu ôl i’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan y Bwrdd.

“Maen nhw hefyd yn gyfle i glywed yn uniongyrchol am y gwaith sy’n digwydd yma a sut i wella pethau i’n pobl a’n cleifion, yn ogystal â gofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau.”

Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd sy’n digwydd ddydd Iau 27 Mawrth 2025 o 9.30am.

Cynghorir gwylwyr y bydd y ddolen hon ond yn gweithio 10 munud cyn i'r cyfarfod ddechrau.

I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 26 Mawrth 2025 fan bellaf.

Bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.