Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal ei Gyfarfod Bwrdd deufisol

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei gyfarfod Bwrdd deufisol.

Gwahoddir y cyhoedd i ymuno ar Microsoft Teams i wrando ar Corinne a Laurence Cope, rhieni'r diweddar Dylan Cope, a fu farw ym mis Rhagfyr 2022 o sepsis, yn myfyrio ar farwolaeth y bachgen naw oed, gan gynnwys eu profiad o gysylltu â GIG 111 Cymru a sut i adnabod arwyddion sepsis.

Bydd uwch arweinwyr yn trafod y fframwaith perfformiad ambiwlansys newydd sy'n cael ei gyflwyno o fis Gorffennaf, a fydd yn arwydd o symud i ffwrdd o fesurau amser ymateb a symud tuag at ganlyniadau cleifion, yn ogystal ag esblygiad model clinigol yr Ymddiriedolaeth, a gynlluniwyd i ddarparu gofal mwy diogel i gleifion ac amddiffyn capasiti ambiwlansys i'r rhai sydd ei angen fwyaf.

Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiwn i'r Bwrdd.

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae ein cyfarfodydd Bwrdd yn rhan bwysig o sut rydym yn gweithredu mewn modd agored a thryloyw, ac rwy’n annog unrhyw un sydd â diddordeb yn ein gwaith i ymuno â ni’n rhithwir.

“Maent yn gyfle i gael gwybod am y cynnydd rydyn ni'n ei wneud a'r heriau rydyn ni'n eu hwynebu wrth i ni barhau i esblygu gwasanaethau ambiwlans i’r bobl yng Nghymru, yn ogystal â chyfle i ofyn cwestiynau i'r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau.”

Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd sy’n digwydd ddydd Iau 29 Mai 2025 o 9.30am.

Cynghorir gwylwyr y bydd y ddolen hon ond yn gweithio 10 munud cyn i'r cyfarfod ddechrau.

I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch neges e-bost at 
AMB_AskUs@wales.nhs.uk  erbyn dydd Mercher 28 Mai 2025 fan bellaf.

Bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.