Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal ei Gyfarfod Bwrdd deufisol

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei gyfarfod Bwrdd Ymddiriedolaeth deufisol.

Gall aelodau'r cyhoedd ymuno ar Microsoft Teams i wrando ar aelodau'r Bwrdd yn trafod newidiadau pellach i'r ffordd y caiff galwadau 999 eu brysbennu, a fydd yn cael eu cyflwyno dros y gaeaf.

Mae categorïau newydd 'oren: sensitif o ran amser' a 'melyn: asesu ac ymateb' – a fydd yn disodli'r categori 'Oren' presennol – wedi'u cynllunio i wella gofal i gleifion sydd wedi cael strôc a chyflyrau difrifol eraill, fel trawiadau ar y galon.

Bydd y Bwrdd hefyd yn clywed gan Taylor yn Rhondda Cynon Taf, sy'n disgrifio profiad o geisio cael cymorth trwy'r gwasanaeth meddyg teulu y tu allan i oriau, GIG 111 Cymru a 999 ar gyfer ei mam-gu.

Bydd Rachel Marsh yn siarad am ei chyfnod fel Prif Weithredwr Dros dro cyn i'r Prif Weithredwr newydd Emma Wood ymuno â'r gwasanaeth ym mis Hydref, a bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiynau i'r Bwrdd.

Dywedodd Ceri Jackson, Cyfarwyddwr Anweithredol ac Is-gadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae cyfarfodydd y bwrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau tryloywder a didwylledd ym mhopeth a wnawn.

“Mae’r cyfarfodydd hyn yn gyfle gwerthfawr i gael gwybod am y cynnydd rydym yn ei wneud, yr heriau rydym yn eu hwynebu wrth i ni barhau i ddatblygu a gwella gwasanaethau ambiwlans i bobl Cymru, gan gynnig llwyfan i’r cyhoedd ymgysylltu’n uniongyrchol drwy ofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau.

Rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb yn ein gwaith i ymuno â ni’n rhithwir.”

Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd sy’n digwydd ddydd Iau 25 Medi 2025 o 9.30am.

Cynghorir gwylwyr y bydd y ddolen hon ond yn gweithio 10 munud cyn i'r cyfarfod ddechrau.

I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch neges e-bost at
AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 24 Medi 2025 fan bellaf.

Bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.