Bydd aelodau’r Bwrdd hefyd yn clywed gan Rusna Begum, Hyfforddai Rheoli Graddedig, a fydd yn rhannu ei phrofiad o weithio yn yr Ymddiriedolaeth.
Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae ein cyfarfodydd Bwrdd yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau tryloywder a didwylledd ym mhopeth a wnawn.
“Mae'r cyfarfodydd hyn yn gyfle gwerthfawr i gael gwybod am y cynnydd rydym yn ei wneud a'r heriau rydym yn eu hwynebu wrth i ni barhau i ddatblygu a gwella gwasanaethau ambiwlans i bobl ledled Cymru.
“Maent hefyd yn cynnig llwyfan i'r cyhoedd ymgysylltu'n uniongyrchol drwy ofyn cwestiynau i’r rhai sy’n gwneud y penderfyniadau.”
Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd sy’n digwydd ddydd Iau 27 Tachwedd 2025 o 9.30am.
Cynghorir gwylwyr y bydd y ddolen hon ond yn gweithio 10 munud cyn i'r cyfarfod ddechrau.
I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch neges e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 26 Tachwedd 2025 fan bellaf.
Bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.