Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei gyfarfod Bwrdd deufisol – ac mae’n gwahodd y cyhoedd.
Bydd aelodau’r Bwrdd yn clywed stori Judith, lle mae hi'n disgrifio ei phrofiad o geisio ffonio 999 i'w mam ar ôl cwymp gartref yng Nghaerffili y llynedd, a sut arweiniodd hyn at greu Desg Cwympiadau yr Ymddiriedolaeth.
Bydd cyfle hefyd i ofyn cwestiwn i'r Bwrdd.
Dywedodd y Cadeirydd Colin Dennis: “Mae cyfarfodydd y Bwrdd yn cynnig cyfle gwerthfawr i ddyfnhau dealltwriaeth o'r gwasanaeth ambiwlans a chael cipolwg ar sut mae penderfyniadau allweddol yn cael eu gwneud.
“Maent hefyd yn darparu fforwm i glywed yn uniongyrchol am waith parhaus, archwilio ffyrdd o wella cefnogaeth i staff a chleifion yr Ymddiriedolaeth ac ymgysylltu â’r bobl sy’n gyfrifol am wneud y penderfyniadau hynny.
Cliciwch yma i wylio cyfarfod y Bwrdd sy’n digwydd ddydd Iau 29 Ionawr 2026 o 9.30am.
Byddwch yn gallu defnyddio’r ddolen 10 munud cyn i’r cyfarfod dechrau.
I gyflwyno cwestiwn ymlaen llaw, anfonwch neges e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 28 Ionawr 2026 fan bellaf.
Bydd agenda ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn y dyddiau cyn y cyfarfod.