Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i gynnal Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol a'i Gyfarfod Bwrdd deufisol

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn paratoi i gynnal ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol.

Gall y cyhoedd ymuno â'r cyfarfod drwy Microsoft Teams i ddysgu mwy am gyflawniadau'r Ymddiriedolaeth dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd y Bwrdd hefyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am berfformiad a chyllid, yn trafod yr adroddiad blynyddol a cyfrifon ar gyfer 2024/25 ac yn ateb cwestiynau gan y cyhoedd.

Dywedodd Colin Dennis, Cadeirydd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Mae ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn gyfle gwerthfawr i fyfyrio ar gyflawniadau’r flwyddyn ddiwethaf a sut mae’r rheini wedi ein llunio ni fel sefydliad.

“Mae hefyd yn amser i edrych ymlaen, felly byddwn yn trafod ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol a’r camau rydym yn eu cymryd i gyrraedd yno.

“Yn ganolog i’r weledigaeth honno mae ymrwymiad beiddgar i drawsnewid sut rydym yn darparu gofal a sicrhau bod cleifion yn cael y gofal neu’r cyngor cywir, yn y lle iawn, bob tro.”

Cliciwch yma i ymuno â'r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Iau 31 Gorffennaf rhwng 9.30am-10.50am.

Gofynnwch gwestiwn mewn amser real trwy'r opsiwn Holi ac Ateb ar Teams, neu gyflwynwch gwestiwn ymlaen llaw trwy anfon neges e-bost at AMB_AskUs@wales.nhs.uk erbyn dydd Mercher 30 Gorffennaf fan bellaf.

Cynhelir cyfarfod deufisol Bwrdd yr Ymddiriedolaeth yn syth ar ôl y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, lle bydd gwylwyr yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y newidiadau diweddar i'r ffordd y mae galwadau 999 yn cael eu trin.

Cliciwch yma i ymuno â chyfarfod y Bwrdd sy'n dechrau am 11.00am, a bydd agenda ar ei gyfer ar gael ar wefan yr Ymddiriedolaeth yn fuan.