17.12.25
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gofyn i ddathlwyr ddangos hunanreolaeth y Dydd Gwener Gwallgof hwn.
Dydd Gwener Gwallgof (a elwir hefyd yn Mad, Frantic, neu Black Eye Friday yn Saesneg) yw'r diwrnod gwaith olaf cyn y Nadolig i'r rhan fwyaf o weithwyr ac fel arfer mae'n nodi dechrau tymor partïon yr ŵyl.
Er bod y rhan fwyaf o nosweithiau allan yn dod i ben yn ddiniwed, gall yfed gormodol arwain at anafiadau y gellir eu hosgoi i rai a rhoi straen diangen ar y gwasanaeth ambiwlans a'r GIG ehangach.
Dywedodd Jonathan Edwards, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth: Yfwch yn gyfrifol a gwnewch yn siŵr bod gennych yrrwr dynodedig neu cynlluniwch ar gyfer cludiant arall os ydych chi'n yfed alcohol.
“Defnyddiwch y gwasanaethau brys yn briodol a ffoniwch 999 yn unig mewn argyfyngau difrifol neu sy’n peryglu bywyd.
“Peidiwch ag anghofio am y dewisiadau amgen i 999, fel gwefan GIG 111 Cymru ac Albot - Cynorthwyydd Digidol GIG Cymru, a all eich helpu i ddod o hyd i atebion i’r rhan fwyaf o gwestiynau a’ch tywys i’r lle cywir ar gyfer yr wybodaeth a’r cyngor iechyd.
“Dangoswch barch ac ystyriaeth hefyd i weithwyr brys.
“Yn anffodus, mae lleiafrif bach o bobl yn dal i ddangos ymddygiad ymosodol tuag at ein criwiau, gydag ymosodiadau corfforol a geiriol yn digwydd ledled Cymru.
“Mae ein criwiau ambiwlans yno i helpu pobl, ond dydyn nhw ddim yn gallu ymladd am fywyd rhywun arall os ydyn nhw’n ymladd dros eu bywyd eu hunain.”
“Efallai nad oes gan griwiau unrhyw ddewis ond gadael lleoliad os yw eu diogelwch personol yn cael ei beryglu, ac nid yw hyn o gymorth i unrhyw un, yn lleiaf oll y claf.”
Er mwyn helpu i ymdopi â chyfnod prysur yr ŵyl, bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn defnyddio gwasanaethau ychwanegol mewn rhai ardaloedd byrddau iechyd.
Yng Nghaerdydd, bydd yr Uned Ymateb Beic a'r Tîm Ymateb Symudol yn gweithredu ar ddyddiadau allweddol cyn y Nadolig, gan gynnwys ar Ddydd Gwener Gwallgof.
Mae'r Tîm Ymateb Symudol yn gweithredu ar droed ac wedi'u hanelu at ardaloedd cerddwyr dwysedd uchel fel canol dinas Caerdydd yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Yn aml, gall fod yn anodd cael cerbydau mwy i mewn i ardaloedd o'r fath, felly mae'r tîm hwn, sydd â chyfarpar meddygol a stretsier, yn gallu asesu a darparu triniaeth gychwynnol.
Lle bo'n glinigol ddiogel gwneud hynny, byddant yn rhyddhau'r claf, ond pan nad yw hyn yn bosibl maen nhw’n defnyddio'r stretsier i gludo'r claf i leoliad addas lle gallant gyfarfod ag ambiwlans brys i'w gludo ymlaen.
Yn y brifddinas ac yng ngogledd Cymru, bydd Canolfannau Triniaeth Alcohol hefyd ar agor cyn y Nadolig.
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru hefyd wedi cyflwyno categorïau galwadau 999 newydd sydd wedi'u cynllunio i sicrhau bod pob claf yn derbyn y gofal cywir ar gyfer eu hanghenion.
Gallai hynny gynnwys anfon ambiwlans, atgyfeirio at y meddyg teulu, hunanofal neu rywbeth arall.
Ychwanegodd Jonathan: “Rydym yn deall bod hwn yn gyfnod arbennig o’r flwyddyn, lle bydd llawer o bobl allan yn dathlu gyda ffrindiau a theulu.
“Efallai bod mwynhau ac yfed alcohol yn rhan o’r dathliadau hynny ond os ydych chi’n bwriadu yfed dros y cyfnod Nadoligaidd, y cyfan rydyn ni’n ei ofyn yw eich bod chi’n gwneud hynny’n gyfrifol.”