Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn agor canolfan gydlynu a rheoli newydd o'r radd flaenaf

13.06.2025

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi agor ei ganolfan gydlynu a chyfathrebu newydd yn Sir Ddinbych.

Y ganolfan, sydd wedi'i lleoli ar ystâd bresennol yr Ymddiriedolaeth ar Barc Busnes Llanelwy, yw cartref newydd yr adrannau Cydlynu Gwasanaethau Meddygol Brys, Ansawdd Gweithrediadau, Adnoddau a Gofal Ambiwlans - a’r Gwasanaeth Cludiant Cleifion Di-frys.



Mae'r cyfleuster newydd wedi disodli'r hen safle yn Llanfairfechan, a oedd wedi bod ar waith er 2001 ac nad oedd bellach yn addas at y diben.

Roedd Julie Gillbanks, Uchel Siryf Clwyd, yn bresennol yn yr agoriad swyddogol. Datgelodd blac yng nghyfleuster Parc Busnes Llanelwy i goffáu'r achlysur.

Mewn ymgyrch a gynlluniwyd yn ofalus, cwblhaodd staff eu sifft nos olaf ar safle Llanfairfechan ar 7 Mai. Cafodd yr alwad 999 olaf ar y safle ei ateb y bore canlynol gan Lauryn Edwards, sy’n Uwch Anfonwr Meddygol Brys.



Yn y cyfamser, tra roedd Lauryn yn ateb yr alwad olaf, dechreuodd cydweithwyr ar sifft y bore canlynol eu diwrnod cyntaf yn Nhŷ Elwy, gyda Katy Hall, derbynnydd galwadau 999, yn ateb yr alwad gyntaf ar y safle newydd.



Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Bydd y cyfleuster newydd hwn yn cael effaith gadarnhaol ar bawb sy’n gweithio yma yn ogystal â’n cleifion.

“Mae'n gyfleuster o'r radd flaenaf, sy'n darparu popeth y byddech chi'n disgwyl ei weld mewn canolfan alwadau ambiwlans fodern.

“Ar adeg pan fo pwysau a nifer y galwadau’n gyson uchel ar draws y system gyfan, mae’r ganolfan newydd hon yn rhoi mwy o hyblygrwydd a gwydnwch inni, a bydd yn ein galluogi i ymdopi’n well â’r gofynion sy’n cael eu rhoi arnom.”

Penderfynwyd symud pan farnwyd bod yr adeilad blaenorol yn anaddas oherwydd ehangu'r gwasanaeth, oedran naturiol y safle, a'r gwaith cynnal a chadw costus oedd ei angen i gynnal y cyfleuster.

Ym mis Tachwedd 2023, ar ôl ystyried yn ofalus, penderfynwyd mai Tŷ Elwy, Llanelwy, oedd yr opsiwn mwyaf addas.

Mae'r safle newydd hefyd yn cynnwys campfa, ardal ymlacio, cyfleusterau hyfforddi ar y safle, parcio diogel, ardaloedd gweithio glân, llachar a chyfforddus a mynediad hawdd at wibffordd yr A55.

Yn ystod y seremoni agoriadol, dywedodd Julie Gillbanks, Uchel Siryf Clwyd: “Heddiw, ar ôl gweld â’m llygaid fy hun yr hyn sydd ynghlwm wrth ateb galwad frys i’r gwasanaeth ambiwlans, gallaf werthfawrogi manteision gweithio o’r ganolfan newydd hon yn fawr.

“Rydw i wedi dysgu cymaint am frysbennu a sgrinio galwadau, a sicrhau bod y gofal cywir yn cael ei ddarparu i’r bobl gywir wrth ddarparu dewisiadau amgen i’r rhai nad oes o bosibl angen ambiwlans arnynt.

“Dylai pob un o’r staff gwych sy’n gweithio yma fod yn falch ohonyn nhw eu hunain ac rwy’n eu llongyfarch nhw i gyd am yr hyn maen nhw’n ei wneud i helpu pobl Cymru.”