18.12.25
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi datgelu ei gerbydau holl-drydanol cyntaf.
Mae deg cerbyd MAXUS eDELIVER 5 bellach wedi dechrau gwasanaethu fel rhan o uchelgais yr Ymddiriedolaeth i leihau ei hôl troed carbon.
Mae 20 o gerbydau hybrid plygio i mewn Ford Transit Custom arall yn cwblhau'r ychwanegiadau uwch-dechnoleg newydd i'r fflyd o 800 o gerbydau, diolch i fuddsoddiad o £22.4 miliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cerbydau newydd.
Disgwylir y bydd y cerbydau arloesol yn parhau i ostwng CO2 o allyriadau diesel a gwella profiad cleifion a staff.
Dywedodd David Holmes, Rheolwr Fflyd yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae'r cerbydau hyn yn cynrychioli cam mawr ymlaen nid yn unig o ran cynaliadwyedd, ond o ran cysur a diogelwch.
“Maent wedi'u cyfarparu ag ystod o dechnolegau cymorth gyrwyr, fel rheolaeth cyflymder addasol (cruise control), brecio brys awtomatig, cymorth cadw lôn a chymorth man dall, sydd i gyd yn helpu i leihau blinder gyrwyr ac yn galluogi ein criwiau i ganolbwyntio'n llawn ar ofal cleifion.
“Rydym yn hynod falch o’r cerbydau glanach a gwyrddach hyn, sy’n cefnogi ein hagenda datgarboneiddio ein hunain a nod Llywodraeth Cymru am sector cyhoeddus carbon sero net erbyn 2030.”
Mae’r cerbydau ymateb unigol, a fydd yn cael eu defnyddio’n bennaf gan Uwch Barafeddygon a pharafeddygon yr Uned Ymateb Aciwtedd Uchel Cymru, i’w cael ledled Cymru, gan gynnwys yn Wrecsam, Aberystwyth, Gelli, Bryncethin, Castell-nedd, Abertawe, Coed Duon a Chaerdydd.
Yn lle dibynnu ar danwydd traddodiadol i barhau i weithredu, bydd parafeddygon yn gallu ailwefru eu cerbydau mewn nifer o bwyntiau gwefru mewn gorsafoedd ledled Cymru.
Dywedodd Ed Roberts, Cyfarwyddwr Cyllid Dros dro yr Ymddiriedolaeth: “Fel gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol Cymru, mae gwella ansawdd aer yn flaenoriaeth allweddol i ni, nid yn unig i’n pobl a’n cleifion ond i les cymunedau ledled Cymru, heddiw ac yn y dyfodol.
“Gyda’r galw am ein gwasanaeth yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, mae’n bwysicach nag erioed cael fflyd effeithlon sy’n cadw’r olwynion yn troi ar ein gwasanaeth ambiwlans.
“Hoffem estyn diolch diffuant i Lywodraeth Cymru ac i gydweithwyr ar draws y gwasanaeth sydd wedi cydweithio i wneud hyn yn bosibl.”