Neidio i'r prif gynnwy

Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr 2025

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn talu teyrnged i’w gwirfoddolwyr ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr.

Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr yw’r dathliad blynyddol o'r cyfraniad y mae miliynau o bobl ledled y byd yn ei wneud drwy wirfoddoli.

Mae mwy na 600 o wirfoddolwyr yn rhoi o’u hamser i gefnogi’r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, gan gynnwys  Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned, Gyrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol ac Ymatebwyr Lles Cymunedol.

Yn eu plith mae Dawn Jones, 50, o Borthmadog, sy'n Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned.



Mae gan Dawn, sy'n byw gyda'i gŵr, Rhys, chwech o blant a chwech o wyrion ond er gwaethaf ei bywyd personol prysur, mae hi bob amser yn dod o hyd i amser i wirfoddoli yn ei chymuned.

Mae Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned yn mynd i alwadau 999 yn eu cymuned ac yn rhoi triniaeth yn y munudau cyntaf gwerthfawr cyn i ambiwlans gyrraedd. 

Maen nhw’n cael eu hyfforddi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i roi cymorth cyntaf, gan gynnwys therapi ocsigen ac adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR), yn ogystal â defnyddio diffibriliwr.

Dwy flynedd yn ôl, am y tro gyntaf ar gyfer gwasanaeth ambiwlans GIG yn y DU, cawson nhw eu hyfforddi hefyd i roi Methoxyflurane, neu Penthrox, cyffur sy'n gweithredu'n gyflym a ddefnyddir i leihau poen mewn cleifion ag anaf trawmatig fel toriad, dadleoliad, rhwygiad difrifol neu losgiadau.

Dywedodd Dawn: “Mae bod yn Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned yn fwy na chyrraedd lleoliad argyfwng yn gyntaf; mae’n ymwneud â bod yn bresenoldeb tawel pan fydd byd rhywun yn teimlo fel ei fod yn cwympo’n ddarnau.

“Mae’n ymwneud â thawelu meddwl claf, cynnig tosturi, a gofal hanfodol nes bod criw’r ambiwlans yn cyrraedd.

“Mae pob galwad yn fy atgoffa pa mor werthfawr yw bywyd a pha mor bwysig yw bod yno i’n gilydd.”

Ochr yn ochr â'i rôl fel Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned, mae Dawn hefyd wrth ei bodd yn mynd allan i'r gymuned, gan ymweld ag ysgolion, clybiau a grwpiau, gan addysgu cymorth bywyd sylfaenol.

Parhaodd Dawn: “Rwy’n teimlo mor angerddol am addysgu’r sgiliau hyn nes i mi ei gwneud yn genhadaeth i mi, sy’n syml ond yn bwerus: addysgu cymaint o bobl â phosibl sut i gynnal CPR a defnyddio diffibriliwr.

“Mae’r sgiliau hyn yn achub bywydau, ac rwy’n credu y dylai pawb deimlo’n ddigon hyderus i gamu ymlaen mewn argyfwng.


“Po fwyaf o bobl sy’n gwybod beth i’w wneud, y cryfaf a’r diogelaf fydd ein cymunedau.”

Un o gyflawniadau mwyaf balch Dawn yw ei bod wedi dysgu cymorth bywyd sylfaenol i'w phlant a'i hwyrion.

Dywedodd Jade: “Mae gwybod bod gan fy mhlant a’m hwyrion y sgiliau i gamu i mewn yn ystod argyfwng yn fy llenwi â balchder a gobaith.

“Mae fy ngŵr, Rhys, wedi bod yn graig i mi drwy gydol y daith hon-mae ei gefnogaeth yn golygu y gallaf roi fy amser a’m hegni i’r gymuned, gan wybod ei fod bob amser yn fy nghefnogi i.”

Rôl wirfoddoli arall gyda gwasanaeth Ambiwlans Cymru yw rôl Ymatebwyr Lles Cymunedol.

Mae Ymatebwyr Lles Cymunedol wedi'u hyfforddi i gefnogi'r gwaith o ddarparu gofal brys i gleifion yn y gymuned ledled Cymru.

Mae’r gwirfoddolwyr hyn yn mynychu galwadau 999 yn eu cymuned ac yn cymryd set o arsylwadau gan gleifion, gan gynnwys cyfradd curiad y galon a lefelau ocsigen, sy'n helpu clinigwyr yn ystafell reoli yr Ymddiriedolaeth i benderfynu ar y camau nesaf priodol.

Gallai hynny olygu anfon ambiwlans, cyfeirio'r claf at ei feddyg teulu, cyngor hunanofal neu rywbeth arall. Os oes gennych chi eich cerbyd eich hun, gallai'r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol fod yn opsiwn arall i'r rhai sy'n ystyried gwirfoddoli.

Mae gyrwyr y Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn defnyddio eu cerbydau eu hunain i gludo pobl i ac o apwyntiadau ysbyty arferol, gan gynnwys dialysis, oncoleg ac apwyntiadau cleifion allanol.

Hyd yn hyn eleni, maen nhw wedi gwneud dros 43,000 o deithiau ledled Cymru ac wedi teithio mwy nag 1.2 miliwn o filltiroedd yn eu cerbydau eu hunain.

Maent hefyd wedi cwblhau miloedd o deithiau oncoleg yn dilyn menter lle mae cleifion canser yn cael eu paru â gyrwyr y Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol penodol am gyfnod eu triniaeth.



Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau yr Ymddiriedolaeth: “Mae gan bob un o’n gwirfoddolwyr barodrwydd rhyfeddol i roi pobl eraill yn gyntaf, gan sicrhau bod gan gymunedau ledled Cymru rywun i ddibynnu arno mewn adegau o angen.

“Mae Diwrnod Rhyngwladol Gwirfoddolwyr yn rhoi cyfle gwych inni dynnu sylw at eu hymdrechion, yr amser a’r egni anhygoel maen nhw’n eu neilltuo i’n cefnogi, ac i fynegi ein diolchgarwch yn gyhoeddus am eu hymroddiad parhaus i gadw cleifion yn ddiogel.”

Canmolodd Uchel Siryf Clwyd, Julie Gillbanks, ddau o wirfoddolwyr yr Ymddiriedolaeth hefyd yn dilyn ei thaith fer ddiweddar gyda'r Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned Rachel Bostock a Richard Witheridge yn Wrecsam.

Dywedodd yr Uchel Siryf: “Mi ges i’r fraint o fynd gyda Richard a Rachel ar sifft, lle'r oedd eu sgiliau a’u proffesiynoldeb yn amlwg.

"Diolch i chi'ch dau am ddiwrnod mor ddiddorol ac roedd cael eich gwylio chi ar waith yn anhygoel."

"Rydych chi a'ch cydweithwyr yn arwyr bywyd go iawn."