Mae parafeddygon ledled Cymru yn paratoi i ddathlu Diwrnod Rhyngwladol Parafeddygon (IPD) ar 8 Gorffennaf, gan ymuno â mwy na 130 o sefydliadau ledled y byd i nodi'r achlysur.
Dewiswyd thema eleni, Undod a Chymuned, gan Goleg y Parafeddygon, a sefydlodd IPD, i dynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio rhwng parafeddygon a'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Dim ond trwy gydweithio y gellir goresgyn yr heriau mawr mewn iechyd a gofal a gwella canlyniadau cleifion.
Ar 8 Gorffennaf, bydd sefydliadau sy'n gysylltiedig â pharafeddygon ledled y byd yn ymuno â Choleg y Parafeddygon i gydnabod ac anrhydeddu parafeddygon, ymatebwyr cyntaf a gwirfoddolwyr cymunedol. Bydd y diwrnod hefyd yn rhoi cyfle i ganolbwyntio ar pam mae partneriaethau gwaith yn hanfodol i systemau gofal iechyd ledled y byd.
Nid oes unrhyw barafeddyg yn gweithio ar ei ben ei hun; maent yn gweithio gyda chydweithwyr, aelodau criw, fel rhan o dimau amlddisgyblaethol a chyda sefydliadau iechyd eraill i gyflawni effaith wirioneddol a darparu gofal rhagorol sy'n canolbwyntio ar y claf.
Mae gwaith tîm yn caniatáu iddynt feithrin ymdeimlad dyfnach o berthyn, cronni adnoddau, arbenigedd ac arferion gorau. Mae'n cynyddu eu gallu i ddatrys problemau a all arwain at gynlluniau triniaeth mwy effeithiol, darparu cydlynu gofal gwell, ac yn y pen draw, gwella canlyniadau i gleifion. Drwy gydweithio, gall parafeddygon ddysgu oddi wrth ei gilydd, cyfnewid syniadau, a chael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwil a'r datblygiadau diweddaraf yn eu meysydd priodol.
Dywedodd Andy Swinburn, Cyfarwyddwr Gweithredol Parafeddygaeth yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Ar Ddiwrnod Parafeddygon Rhyngwladol, rydym yn cydnabod ymroddiad a chyfraniad hanfodol parafeddygon ledled Cymru a thu hwnt, sy'n darparu gofal medrus ac amserol pan fo'n bwysicaf.
“Nid yw’r un parafeddyg yn gweithio ar ei ben ei hun.
“Mae thema eleni, undod a chymuned, yn tynnu sylw at rôl hanfodol cydweithio mewn gofal iechyd.
“Gan weithio fel rhan o dîm ehangach, mae parafeddygon yn tynnu ar wybodaeth a rennir i gefnogi cleifion, goresgyn heriau, a datblygu’r proffesiwn.
“Heddiw, rydym yn anrhydeddu’r rhai sy’n dod â thrugaredd, arbenigedd, a gwydnwch i bob galwad, gan sicrhau’r gofal gorau posibl i’r rhai mewn angen.”
Lansiwyd Diwrnod Rhyngwladol Parafeddygon am y tro cyntaf yn 2022 gan Goleg y Parafeddygon. Ers hynny, mae nifer y partneriaid yn y DU ac yn fyd-eang sydd wedi addo eu cefnogaeth i'r ymgyrch wedi parhau i dyfu, ac mae gwaith hanfodol parafeddygon bellach yn cael ei gydnabod, ei drafod a'i ddathlu mewn dros 30 o wledydd.
Dywedodd Tracy Nicholls, Prif Weithredwr Coleg y Parafeddygon: “Nid proffesiwn yn unig yw parafeddygaeth — mae'n alwad ar y cyd. Mae thema eleni, Undod a Chymuned, yn fy atgoffa bod tîm y tu ôl i bob un ymateb, pob penderfyniad, a phob gweithred o ofal neu dosturi — rhwydwaith o gefnogaeth, gwybodaeth, ymarfer a phwrpas a rennir. Trwy'r undod hwn yr ydym yn gallu dod o hyd i gryfder pan fydd pethau'n ymddangos yn llwm, neu pan fyddwn yn flinedig.
“A thrwy ein cymuned yr ydym yn creu effaith barhaol ar y rhai sy'n dod i gysylltiad â ni trwy ein bywydau proffesiynol, neu trwy ein pobl yn gwirfoddoli i gynnig eu sgiliau lle bynnag y bo eu hangen. Ar Ddiwrnod Rhyngwladol Parafeddygon ar 8 Goffennaf, gadewch i ni ddathlu pŵer a phosibilrwydd gweithio gyda'n gilydd, oherwydd pan fyddwn yn uno, efallai na fyddwn yn newid bywydau yn unig, mae gennym y potensial i drawsnewid dyfodol hefyd.”
Mae Diwrnod Rhyngwladol Parafeddygon yn digwydd bob blwyddyn ar 8 Gorffennaf oherwydd bod hyn yn nodi pen-blwydd geni Dominique Jean Larrey, y meddyg milwrol Ffrengig a ddaeth yn brif lawfeddyg Napoleon Bonaparte yn y Grand Armee a'r dyn y cyfeirir ato'n aml fel 'tad gwasanaethau ambiwlans modern'.
Am ragor o wybodaeth am Ddiwrnod Parafeddygon Rhyngwladol ewch i www.internationalparamedicsday.com