02.06.2025
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi talu teyrnged i'w wirfoddolwyr fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr.
Mae Wythnos Gwirfoddolwyr (02-08 Mehefin) yn ddathliad blynyddol o'r cyfraniad y mae miliynau o bobl yn ei wneud ledled y DU trwy wirfoddoli.
Mae bron i 700 o wirfoddolwyr yn rhoi o'u hamser i gefnogi'r gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru, yn cynnwys 353 o Ymatebwyr Cyntaf yn y Gymuned, 128 o Ymatebwyr Lles Cymunedol a 160 o Yrwyr Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol.
Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth: “Mae gwirfoddolwyr yn rhan hanfodol o Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
“Mae eu hymrwymiad a’u haelioni yn cael effaith uniongyrchol ar filoedd o gleifion bob blwyddyn, ac ni allem wneud yr hyn a wnawn hebddyn nhw.
“Mae Wythnos Gwirfoddolwyr yn gyfle gwych i gydnabod eu hymdrechion anhygoel, i ddathlu’r amser a’r egni maen nhw’n eu rhoi’n anhunanol, ac i ddiolch iddyn nhw’n gyhoeddus am eu cefnogaeth barhaus i’w cymunedau lleol.”
Ymhlith y cyfleoedd gwirfoddoli yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru mae rôl Ymatebwr Cyntaf yn y Gymuned (CFR).
Mae ymatebwyr CFR yn mynd i alwadau 999 yn eu cymuned ac yn rhoi triniaeth yn y munudau cyntaf gwerthfawr cyn i ambiwlans gyrraedd.
Maen nhw’n cael eu hyfforddi gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru i roi cymorth cyntaf, yn cynnwys therapi ocsigen ac adfywio cardio-pwlmonaidd, yn ogystal â defnyddio diffibriliwr.
Yn 2024/25, aeth ymatebwyr CFR i fwy na 10,841 o argyfyngau yng Nghymru.
Dwy flynedd yn ôl, am y tro cyntaf mewn gwasanaeth ambiwlans GIG yn y DU, cafodd ymatebwyr CFR eu hyfforddi hefyd i roi Methoxyflurane, neu Penthrox, cyffur sy'n gweithredu'n gyflym a ddefnyddir i leihau poen cleifion ag anafiadau trawmatig fel toriad, dadleoliad, rhwygiad difrifol neu losgiadau.
Mae Ben Kirkham, 50 oed, sy'n byw ym Mae Colwyn, wedi bod yn ymatebwr CFR cymwys ers mis Tachwedd 2016. Mae'n cyfuno ei rôl â'i swydd llawn amser fel therapydd galwedigaethol yng ngogledd Cymru.
Dros bron i naw mlynedd o wirfoddoli, mae Ben wedi dod yn aelod pwysig o dîm gwirfoddolwyr Bae Colwyn lle mae'n gweithredu fel cydlynydd i'r tîm. Mae hefyd yn aelod o Grŵp Llywio Gwirfoddolwyr y gwasanaethau ambiwlans.
Dywedodd Ben: “Roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth dros y gymuned yn gyntaf oll, rhywbeth a oedd yn teimlo fel petawn i’n gwneud gwahaniaeth go iawn.
“Clywais am rôl y CFR trwy gydweithiwr a sylweddolais, fel therapydd galwedigaethol, fy mod i wedi arfer mynd i gartrefi pobl i asesu eu hanghenion, felly roedd gen i sgiliau trosglwyddadwy eisoes a fyddai’n helpu gyda’r rôl.
“Rwy'n gwerthfawrogi hynny fel ymatebwr CFR, mae'n wahanol, oherwydd rydym yn aml yn gweld pobl pan maen nhw ar eu hisaf neu mewn gofid gwirioneddol, ond mae fy swydd llawn amser yn bendant wedi helpu.
“Rwyf wedi dysgu cymaint fel ymatebwr CFR ac rwy’n parhau i ddysgu wrth i’n cwmpas ymarfer ddatblygu i ddiwallu gofynion y rôl.
“I rai sy’n ystyried gwirfoddoli, byddwn i’n dweud ewch amdani, mae’n beth mor werth chweil i’w wneud.
“Oes, mae yna gyfnodau anodd a rhai digwyddiadau anodd, ond i rai cleifion, gall cael rhywun yno gyda nhw wneud gwahaniaeth mawr, ni waeth a ydych chi'n wirfoddolwr, yn barafeddyg neu'n weithiwr gofal iechyd proffesiynol arall.”
Swydd wirfoddol arall yw’r Ymatebwr Lles Cymunedol (CWR).
Mae ymatebwyr CWR yn wirfoddolwyr sy'n mynd i ddigwyddiadau lle nad yw bywyd yn y fantol, i ddarparu arsylwadau a gwybodaeth fyw, amser real i ystafelloedd rheoli'r Ymddiriedolaeth, yn cynnwys cymryd tymheredd, pwysedd gwaed a chyfradd curiad y galon fel y gall clinigwyr fonitro'r claf o bell.
Ymhlith y rhai sy'n ymgymryd â'r rôl newydd hon mae Jackie Hatton-Bell, un o'r 128 o Ymatebwyr CWR sydd gan yr Ymddiriedolaeth yn gwirfoddoli yn y rôl hon ar hyn o bryd.
Mae Jackie, 53 oed, o Arberth, Sir Benfro, yn gyn-ymgynghorydd Adnoddau Dynol a chynghorydd ariannol a wnaeth ganfod, ar ôl gwerthu ei busnes llwyddiannus yn 2019, fod ganddi ddigon i'w gynnig i'w chymuned leol o hyd.
Dywedodd Jackie, a ymunodd yn 2024 ac sydd hefyd yn aelod o’r Grŵp Llywio Gwirfoddolwyr: “Rwyf wrth fy modd â’r hyn rwy’n ei wneud gan nad oes dau ddigwyddiad yr un fath ac mae gallu mynd allan i’m cymuned leol i helpu eraill yn gwneud i mi deimlo fy mod yn gwneud defnydd da o’m hamser.
“Gallaf ddewis a dethol pryd rwy’n mynd ar sifft a gallaf ffitio’r rôl yn hawdd o amgylch cynlluniau neu ymrwymiadau sydd gennyf.
“Mae wedi fy ysbrydoli’n fawr, ac rwy’n credu’n onest, pe bawn i wedi darganfod rhywbeth fel hyn ugain mlynedd yn ôl, y byddwn i wedi ystyried yn ddifrifol newid gyrfaoedd ac efallai dod yn barafeddyg.”
Cefnogir recriwtio a hyfforddi Ymatebwyr CWR ar y cyd gan Elusennau’r GIG Gyda’i Gilydd ac Elusen Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Gwnaethant baratoi ymatebwyr CWR i fynd i 1,045 o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yn unig.
Yn ogystal ag ymateb i alwadau brys, mae gwirfoddolwyr hefyd yn chwarae rolau hanfodol mewn meysydd eraill, fel y Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol (VCS).
Mae'r Gwasanaeth Ceir Gwirfoddol yn cynnwys tîm o yrwyr gwirfoddol ymroddedig ledled Cymru, sy'n defnyddio eu cerbydau eu hunain i gludo cleifion yn ôl a blaen i apwyntiadau ysbyty, fel apwyntiadau dialysis arennol, oncoleg ac apwyntiadau cleifion allanol.
Y llynedd, teithiodd gyrwyr VCS 1,426,165 o filltiroedd rhyngddynt, a chwblhau 45,557 o deithiau, sydd ar gyfartaledd yn 8,914 milltir i bob gyrrwr gwirfoddol
Yn eu plith mae John Mackie, 56 oed, o’r Orsedd, Wrecsam.
Treuliodd John, sy'n wreiddiol o Glasgow, 32 mlynedd yn gweithio i'r cwmni manwerthu bwyd wedi'i rewi Iceland, ac roedd ar fwrdd cyfarwyddwyr y cwmni cyn iddo ymddeol yn gynnar.
Mae bellach yn treulio ei amser yn gwirfoddoli, yn teithio yn ei gartref modur ac yn cadw'n heini yn y gampfa lle mae'n ymarfer corff bedair neu bum gwaith yr wythnos.
Dywedodd John: “Dechreuodd y cyfan i mi ar ôl i fy nhad gael diagnosis o ganser ac roeddwn i’n ei gludo yn ôl ac ymlaen i’r ysbyty ar gyfer apwyntiadau a thriniaethau.
“Roeddwn i’n gallu gweld cleifion eraill yn yr ystafell aros a oedd yn aros i gael eu cludo adref ac ar ôl gweld neges ar y cyfryngau cymdeithasol am y gwasanaeth VCS, syrthiodd popeth i’w le, a gwnes gais yn syth.
“Gallaf ddweud yn onest mai dyma un o’r pethau gorau rwyf erioed wedi’i wneud, ac mae wir yn rôl werth chweil gan fy mod i’n cael helpu pobl sy’n mynd trwy gyfnod anodd iawn, yn union fel yr oedd fy nhad.
“Mae mor hyblyg a gallaf ei ffitio i mewn yn hawdd o amgylch fy hobïau a’m diddordebau eraill.
“Rwy’n rhoi tri diwrnod yr wythnos i fod yn Yrrwr VCS a byddwn yn annog pobl eraill sydd â’r amser sbâr a cherbyd i ystyried dod yn wirfoddolwr.”
Dywedodd Gareth Parry, Rheolwr Gweithrediadau ar gyfer Gwirfoddoli a Chymorth Cymunedol: “Mae ein gwirfoddolwyr gwych yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi’r Ymddiriedolaeth, yn cynnig eu hamser, eu sgiliau a’u tosturi i gryfhau gofal cleifion.
“Mae eu hymroddiad yn sicrhau bod ein gwasanaeth yn parhau i ddarparu’r lefel uchaf o gefnogaeth i gymunedau.
“Yn gyfnewid, maen nhw’n ymgymryd â rôl heriol a hynod werth chweil, ac yn rhan hanfodol o #TîmYGAC, sy’n gwneud gwahaniaeth ystyrlon i fywydau pobl.
“Yn ystod Wythnos Gwirfoddolwyr eleni, rydym yn dathlu ac yn diolch iddynt am eu cyfraniadau amhrisiadwy ledled Cymru.”
I gael rhagor o wybodaeth am wirfoddoli gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, ewch i: Gwirfoddoli i Ni - Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru