31.03.25
MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi gwneud cyfres o addewidion i ddiogelu llesiant cenedlaethau’r dyfodol.
Mae amcanion llesiant yr Ymddiriedolaeth, a gyhoeddwyd fel rhan o’i dyletswyddau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, yn atgyfnerthu ei hymrwymiad i staff, cleifion a chymunedau ledled Cymru.
Nod y Ddeddf yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus ledled Cymru yn cydweithio i wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Dywedodd Estelle Hitchon, Cyfarwyddwr Partneriaethau ac Ymgysylltu’r Ymddiriedolaeth: “Mae ein hamcanion yn cynrychioli ein hymrwymiad hirdymor i ddarparu gofal rhagorol tra’n bod yn gyflogwr blaengar, cymdeithasol gyfrifol.
“Rydym am adeiladu gwasanaeth sy’n addas ar gyfer y dyfodol – un sy’n cefnogi ein pobl, yn gwarchod ein hamgylchedd, ac yn diwallu anghenion y cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu.”
Mae’r amcanion newydd yn canolbwyntio ar dri maes blaenoriaeth:
Cyflogwr cymdeithasol gyfrifol a chynhwysol, drwy wneud y canlynol:
Sefydliad arloesol a chynaliadwy, drwy wneud y canlynol:
Darparwr gofal rhagweithiol, hygyrch a theg, drwy wneud y canlynol:
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol wedi bod yn berthnasol i Wasanaethau Ambiwlans Cymru ers 30 Mehefin 2024.
Ychwanegodd Estelle: “Nod y Ddeddf yw sicrhau bod cyrff cyhoeddus yn cydweithio i sicrhau bod Cymru’n datblygu fel gwlad lewyrchus, gyfoethog yn ddiwylliannol, economaidd fywiog, iach ac addysgedig, lle gall pobl ffynnu yn y gwaith a chartref.
“Bydd yr amcanion hyn yn llywio penderfyniadau’r Ymddiriedolaeth, gan helpu i lunio polisïau a mentrau sy’n blaenoriaethu cynaliadwyedd, cynhwysiant a llesiant.
“Hoffem ddiolch i bawb sydd wedi helpu i lunio’r amcanion dros y misoedd diwethaf; o’r cydweithwyr a’r partneriaid Undebau Llafur a’u datblygodd, i’r rhanddeiliaid ac aelodau’r cyhoedd a gefnogodd y broses ymgysylltu ehangach.”
I ddysgu mwy am amcanion llesiant yr Ymddiriedolaeth, ewch i: Our Wellbeing Objectives: Focused on the Future