25.11.25
Mae gwasanaethau brys Gogledd Cymru yn paratoi cynnal eu gwasanaeth carolau Nadolig poblogaidd.
Bydd y gwasanaeth blynyddol, a gynhelir ar y cyd gan Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn cael ei gynnal yng Nghadeirlan Bangor ar nos Lun 8 Rhagfyr am 7.30pm.
Bydd perfformiadau gan Côr Heddlu Gogledd Cymru a Seindorf Biwmares.
Bydd cymysgedd o ddarlleniadau gan gynrychiolwyr y gwasanaethau brys hefyd, ynghyd â charolau adnabyddus i’r gynulleidfa eu canu.
Mae mynediad am ddim ond mi fydd yr elw o’r casgliad ar y noson yn mynd i elusen Prostate Cancer UK.
Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman o Heddlu Gogledd Cymru: “Dwi’n edrych ymlaen at ymuno hefo cydweithwyr, partneriaid a ffrindiau ar gyfer yr achlysur arbennig hwn i ddechrau dathliadau’r Nadolig.
“Mae’r gwasanaeth carolau yn un o uchafbwyntiau cyfnod y Nadolig, nid yn unig i’n staff ni, ond hefyd i’r gymuned sy’n dod allan mewn niferoedd mawr i’n cefnogi.
“’Da ni’n gobeithio casglu arian ar y noson tuag at ein elusen dewisedig – sef Prostate Cancer UK, er mwyn helpu’r gwaith hanfodol maen nhw’n ei wneud er mwyn helpu’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan yr afiechyd.
“Mae croeso cynnes i bawb i’r hyn dwi’n siŵr fydd yn noson fendigedig.”
Bydd lluniaeth yn cael ei weini yng nghefn y gadeirlan yn dilyn y gwasanaeth – hefo diolch i Morrisons a Tesco am eu cyfraniad nhw.