Mae menter newydd wedi cael ei lansio i gynnig cymorth hygyrch a dibynadwy i bobl yng Ngogledd Cymru sy’n byw â dementia, a’r rhai sy’n gofalu amdanyn nhw.
Mae'r prosiect hwn yn dod â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Heddlu Gogledd Cymru, Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru, a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru at ei gilydd i gydweithio â thimau iechyd a gofal lleol. Gyda’i gilydd, maen nhw wedi cyflwyno adnodd gwybodaeth syml ond effeithiol a fydd yn ei gwneud yn haws i unigolion a theuluoedd gael gafael ar ganllawiau, adnoddau, a chymorth pan fyddan nhw eu hangen fwyaf.
Fel rhan o'r fenter, mae sticeri sy'n cynnwys cod QR wedi'u creu i gyfeirio pobl yn uniongyrchol at yr adnodd. Mae sganio’r cod yn mynd â defnyddwyr at ofod ar-lein pwrpasol sy’n llawn cyngor ymarferol, adnoddau lleol, a chefnogaeth ddibynadwy ar gyfer:
Bydd y sticeri hyn yn cael eu harddangos mewn ambiwlansys cludo cleifion (nad ydynt yn rhai brys), lleoliadau iechyd cymunedol, a mannau cyhoeddus ledled Gogledd Cymru, gan sicrhau bod y wybodaeth yn weladwy ac yn hygyrch mewn lleoliadau bob dydd.
Mae’r fenter hon yn rhan o’n hymrwymiad ehangach i ofal sy’n ystyriol o ddementia, sy'n cynorthwyo pobl i gael gwybodaeth, cysylltu ag eraill a bod yn ddiogel – p’un a ydyn nhw gartref, yn mynychu apwyntiadau, neu yn y gymuned.
Wrth drafod yr adnodd, dywedodd Tracey Williamson, Nyrs Ymgynghorol Gofal Dementia: “Mae’r cydweithio hwn yn ei gwneud hi’n haws i bobl ddod o hyd i’r wybodaeth a’r cymorth cywir. P’un a ydych chi’n aelod o'r teulu sy'n gofalu neu’n rhywun sy’n byw â dementia, mae’r adnodd hwn yn cynnig detholiad o adnoddau dibynadwy, lleol sydd ar gael ar unwaith. Maen nhw wedi’u dewis yn ofalus, ac fe allan nhw eich helpu chi i deimlo nad ydych chi ar eich pen eich hun.
“Mae hyn yn llawer mwy effeithiol na gorlwytho pobl gyda gormod o wybodaeth y maen nhw wedyn yn ei chael yn anodd ei llywio”.
Dywedodd Kayleigh Wheeler, Rheolwr Gweithrediadau Gofal y Gwasanaeth Ambiwlans: “Fis Hydref diwethaf, fe es i i ddigwyddiad gydag un o gerbydau ein Gwasanaeth Cludo Cleifion Nad ydynt yn Rhai Brys. Yn ystod y diwrnod, gofynnodd nifer o bobl p’un a fyddai modd iddynt roi taflenni cymorth gyda dementia yn y cerbyd – cwestiwn syml a arweiniodd at syniad mawr.
“Gan gydnabod y potensial i’n cerbydau gysylltu cleifion â gwasanaethau hollbwysig, cafodd cod QR ei greu yn cysylltu â rhestr wedi’i churadu o adnoddau dementia, sydd ar gael trwy ddyfeisiau cleifion a theclynnau iPad ein criwiau.
“Trwy ddefnyddio Linktree i greu tudalen lanio syml a hygyrch, mae’r tîm wedi dod â gwybodaeth allweddol at ei gilydd o sefydliadau gwahanol i roi cymorth i bobl sy’n byw gyda dementia a’u teuluoedd.”
Mae’r detholiad hwn o adnoddau gwybodaeth digidol bellach ar gael drwy’r cod QR, ac mae’r wybodaeth yn cael ei diweddaru’n rheolaidd i adlewyrchu’r canllawiau a’r cymorth diweddaraf sydd ar gael ledled Gogledd Cymru.
Mae'r adnodd ar gael yma: Cymorth Dementia | Linktree