Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Hysbysiad yn unol ag a.24(3) o'r Ddeddf uchod.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gŵyn ac wedi canfod camweinyddu/methiant gwasanaeth gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Yr Ymddiriedolaeth) ac wedi anfon adroddiad ar ganlyniadau eu hymchwiliad i'r Ymddiriedolaeth. Roedd y gŵyn yn ymwneud â:

  1. Yr ymdriniaeth â galwadau 2x 999 a wnaed i’r Ymddiriedolaeth mewn perthynas â Mr B.

  2. Y safon cadw cofnodion a ddangoswyd gan y parafeddyg sy'n mynychu.

  3. A fyddai dyfodiad staff yr Ymddiriedolaeth yn gynharach yn debygol o fod wedi effeithio ar ganlyniad Mr B.

Bydd copi o’r adroddiad ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ambiwlans.gig.cymru ac i’w archwilio gan y cyhoedd yn ddi-dâl yn ystod oriau swyddfa arferol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Tŷ Vantage Point, Ffordd Tŷ Coch, Cwmbrân, NP44 7HF am gyfnod o 3 wythnos o 18 Mawrth 2025 a chaiff unrhyw un sy'n dymuno cymryd copi o'r adroddiad hwn neu wneud detholiadau ohono.

Darperir llungopïau o'r adroddiad neu rannau ohono yn ddi-dâl yn ystod oriau swyddfa arferol.

Dyddiad:

Jason Killens

Prif Weithredwr