Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2019

Hysbysiad yn unol ag a.24(3) o'r Ddeddf uchod.

Mae Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru wedi ymchwilio i gŵyn ac wedi canfod camweinyddu/methiant gwasanaeth gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru (Yr Ymddiriedolaeth) ac wedi anfon adroddiad ar ganlyniadau eu hymchwiliad i'r Ymddiriedolaeth. Roedd y gŵyn yn ymwneud â:

a) A oedd brysbennu'r galwadau brys a'r flaenoriaeth a roddwyd iddynt gan yr Ymddiriedolaeth yn rhesymol ac yn briodol o dan yr amgylchiadau.

b) A oedd y cyngor a ddarparwyd gan staff yr Ymddiriedolaeth yn ystod y galwadau yn rhesymol ac yn briodol.

c) A gafodd Mrs C ei hasesu a’i rheoli’n briodol gan y Bwrdd Iechyd ar ôl iddi gyrraedd Adran Achosion Brys Ysbyty Treforys ar 15 Medi 2022.

Bydd copi o’r adroddiad ar gael ar wefan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ambiwlans.gig.cymru ac i’w archwilio gan y cyhoedd yn ddi-dâl yn ystod oriau swyddfa arferol yn Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, Matrics Un, Matrics 1 Parc, Parc Menter Abertawe, Abertawe, SA6 8RE am gyfnod o 3 wythnos o 18 Mawrth 2025 a chaiff unrhyw un sy'n dymuno cymryd copi o'r adroddiad hwn neu wneud detholiadau ohono.

Darperir llungopïau o'r adroddiad neu rannau ohono yn ddi-dâl yn ystod oriau swyddfa arferol.

Dyddiad: 11 Mawrth 2025

Jason Killens

Prif Weithredwr