Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn addo bod yn Gyflogwr sy'n Ystyriol o Endometriosis

10.02.26

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi addo dod yn Gyflogwr sy’n Ystyriol o Endometriosis.


Fel rhan o gynllun a redir gan yr elusen Endometriosis UK, mae'r Ymddiriedolaeth wedi ymrwymo i gefnogi staff sydd â'r clefyd a chwalu tabŵs ynghylch iechyd mislif yn y gweithle.

Mae endometriosis yn gyflwr lle mae celloedd tebyg i'r rhai yn leinin y groth (wterws) yn tyfu mewn rhannau eraill o'r corff. 

Mae'n effeithio ar un o bob 10 menyw a'r rhai a neilltuwyd yn fenywod adeg eu geni o'r glasoed i'r menopos, er y gall yr effaith gael ei theimlo am oes.

Mae'r symptomau'n amrywio o berson i berson a gallant gynnwys poen yn y pelfis, gwaedu mislif trwm, symudiadau perfedd poenus a blinder.

Mae llawer sydd ag endometriosis hefyd yn profi bola chwyddedig sylweddol tua amser y mislif.

Dywedodd Kathryn Cobley, Pennaeth Cynhwysiant ac Ymgysylltu yr Ymddiriedolaeth: “Gall endometriosis gael effaith ddofn ar fywyd bob dydd, ond yn aml mae’n cael ei gamddeall neu nid oes sgwrs agored amdano.

“Drwy ymuno â chynllun Endometriosis UK, rydym yn ymrwymo i chwalu tabŵs ynghylch iechyd mislif, codi ymwybyddiaeth a sicrhau bod cydweithwyr sydd wedi’u heffeithio gan y cyflwr yn teimlo eu bod yn cael eu gwrando arnynt a'u cefnogi mewn ffordd ystyrlon.

“Mae dod yn Gyflogwr sy’n Ystyriol o Endometriosis yn gam pwysig wrth sicrhau bod ein pobl yn teimlo eu bod yn cael eu deall, eu cefnogi a’u bod yn gallu ffynnu yn y gwaith.”

Ychwanegodd Emma Cox, Prif Weithredwr Endometriosis UK: “Rwy’n falch iawn o groesawu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r ystod amrywiol o sefydliadau sy’n mynd i’r afael â thabŵs ynghylch iechyd mislif ac endometriosis drwy’r cynllun Cyflogwr sy’n Ystyriol o Endometriosis.

“Drwy ddangos i’w dîm eu bod yn cael eu gwerthfawrogi a’u bod yn gallu disgwyl cefnogaeth ac addasiadau rhesymol i helpu’r rhai sydd ag endometriosis a chyflyrau mislif i lwyddo yn y gwaith, byddant yn cynyddu ymgysylltiad ar draws eu gweithlu cyfan, gan wneud y sefydliad yn fwy llwyddiannus yn y pen draw.”

Fel rhan o'r cynllun, bydd yr Ymddiriedolaeth yn penodi Hyrwyddwyr Endometriosis, a fydd yn derbyn hyfforddiant gan Endometriosis UK i'w galluogi i ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth i'w gweithlu.

Ewch i wefan Endometriosis UK i ddysgu mwy am y cynllun.