30.07.2025
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi llwyddo i gadw ei achrediad ISO 14001 am flwyddyn arall.
Mae'r achrediad yn atgyfnerthu ymrwymiad parhaus yr Ymddiriedolaeth i leihau effaith amgylcheddol a gwella perfformiad cynaliadwyedd.
Mae ISO 14001 yn safon a gydnabyddir yn fyd-eang ar gyfer systemau rheoli amgylcheddol a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yw'r unig wasanaeth ambiwlans yn y DU sydd â'r achrediad amgylcheddol hwn.
Mae'n helpu sefydliadau i reoli, monitro a gwella eu prosesau a'u cyfrifoldebau amgylcheddol yn effeithiol.
Yn arwain y gwaith yw’r Rheolwr Amgylcheddol a Chynaliadwyedd, Chris Davies, ynghyd â'r Swyddog Amgylcheddol a Chynaliadwyedd Sharon Jones.
Dywedodd Chris: “Rwy’n falch iawn o gadarnhau, yn dilyn archwiliadau a chyfweliadau trylwyr, fod Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cadw ardystiad ISO 14001 ar gyfer 2025.
“Mae hyn yn dangos bod ein systemau rheoli amgylcheddol yn parhau i alinio â chyfeiriad strategol yr Ymddiriedolaeth ac yn parhau i ysgogi gwelliannau ystyrlon o ran ein perfformiad amgylcheddol.
“Roedd hon yn ymdrech tîm go iawn, a hoffwn estyn fy niolch i’r holl reolwyr gweithrediadau, rheolwyr lleol a staff gweinyddol a fu’n ymwneud â ni yn ystod y broses archwilio ac a helpodd i sicrhau cydymffurfiaeth amgylcheddol yn ein gorsafoedd.
Daeth yr achrediad yn dilyn archwiliad manwl a gynhaliwyd ym mis Mehefin, a oedd yn cwmpasu amrywiaeth o orsafoedd a lleoliadau swyddfa ledled Cymru.
Canmolodd Richard Davies, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cyfalaf ac Ystadau, y cyflawniad, gan ddweud: “Mae cadw’r achrediad hwn a bod yr unig wasanaeth ambiwlans yn y DU i’w ddal yn gamp wych.
“Mae’n adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad y tîm Ystadau, y gyfarwyddiaeth Gweithrediadau, ac yn enwedig Chris a Sharon am arwain y gwaith.”
“Diolch yn fawr iawn i bawb a gyfrannodd, mae hyn yn rhywbeth y gallwn ni i gyd fod yn falch ohono.”
Dywedodd Chris Turley, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol: “Nid yw cyflawni ailachrediad yn gamp fach ac mae'n arwydd clir o'r cynnydd rydym yn ei wneud tuag at ein nodau cynaliadwyedd hirdymor.
“Llongyfarchiadau i bawb a oedd yn rhan o’r cyflawniad gwych hwn.”