Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwefan GIG 111 Cymru yn datgelu cynorthwyydd rhithwir newydd sy'n cael ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial

16.07.25

MAE GIG 111 Cymru wedi cyflwyno cynorthwyydd rhithwir newydd i helpu defnyddwyr y wefan i gael y cyngor iechyd cywir, yn gyflym.


Mae'r cynorthwyydd sy'n cael ei bweru gan deallusrwydd artiffisial, sydd ar gael mewn sawl iaith, yn sganio'r wefan am wybodaeth a chyngor yn seiliedig ar sylwadau gan y claf.

Mae'r dechnoleg wedi'i chynllunio i gynnig profiad cyflymach a mwy di-dor i ddefnyddwyr ac mae'n rhan o raglen waith ehangach i wella gwefan GIG 111 Cymru.

Dywedodd Jonny Sammut, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Digidol yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru, sy'n cynnal gwasanaeth GIG 111 Cymru: “Mae 111 yn ymfalchïo mewn darparu cyngor gofal iechyd y gallwch ymddiried ynddo, a dyna pam mae gwella ein cynnig digidol yn ddarn o waith sydd byth yn dod i ben.

“Rydym hefyd yn cydnabod bod yna lawer iawn o wybodaeth ar wefan 111 a all fod yn anodd ei defnyddio, yn enwedig pan fyddwch chi'n teimlo'n sâl.

“Mae’r cynorthwyydd rhithwir yn eich helpu i ddod o hyd i atebion drwy sganio’r wefan i chi, boed hynny’n ymwneud â brech, pigiad, twymyn, poen dannedd – neu beth bynnag sy’n gwneud i chi deimlo’n sâl.

“Mae’r mynediad amser real hwn at gyngor iechyd nid yn unig yn cynnig profiad mwy cyfeillgar i’r defnyddiwr ond mae hefyd yn galluogi pobl i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu hiechyd.

“Yr allwedd i’w lwyddiant yw adborth gan y cyhoedd, felly byddem yn annog unrhyw un sy’n defnyddio’r cynorthwyydd rhithwir i roi eiliad i ni ar ôl defnyddio’r cynorthwyydd i ddweud wrthym beth oeddent yn ei feddwl.”

Partnerodd yr Ymddiriedolaeth â Robotics AI a DRUID AI i adeiladu'r cynorthwyydd rhithwir.

Dywedodd Raj Sharma, Is-lywydd Gwerthiannau UKI yn DRUID AI: “Yn DRUID AI, rydym yn falch o gydweithio â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru a Robotics AI i chwyldroi rhyngweithiadau cleifion â gwasanaeth GIG 111 Cymru.

“Mae ein hasiant sy’n cael ei yrru gan ddeallsrwydd artiffisial wedi’i gynllunio i wella profiad cleifion, gan sicrhau bod unigolion yn derbyn gwybodaeth iechyd amser real mewn modd di-dor a hawdd ei ddeall a’i ddefnyddio.

“Mae’r datrysiad hwn, sy’n cael ei bweru gan ddeallusrwydd artiffisial, nid yn unig yn gwella profiad y claf drwy ddarparu rhyngweithiadau amserol a phersonol, ond mae hefyd yn gwella effeithlonrwydd gweithredol drwy leddfu’r pwysau ar ganolfannau galwadau.”

Ychwanegodd Russell Lawrie, Prif Weithredwr Robotics AI: “Rydym wrth ein bodd yn partneru â WAST a DRUID AI i ddarparu datrysiad trawsnewidiol sydd nid yn unig yn gwella mynediad at wybodaeth gofal iechyd ond sydd hefyd yn cefnogi cenhadaeth WAST i ddarparu gofal teg ac effeithlon i boblogaeth Cymru.

“Mae’r ateb hwn yn gam sylweddol ymlaen o ran gwneud gofal iechyd yn fwy cynhwysol, hygyrch ac ymatebol.”

Rhannwch eich profiad o wasanaeth GIG 111 Cymru yn ehangach drwy ymweld â: GIG 111 Cymru