Neidio i'r prif gynnwy

Mae offeryn newydd yn helpu criwiau ambiwlans i gefnogi cleifion sydd ag anghenion ychwanegol yn well

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cyflwyno teclyn newydd i nodi a chefnogi pobl ag anghenion ychwanegol yn well.

Mae gan y system ddigidol y mae criwiau'n ei defnyddio i gasglu gwybodaeth feddygol claf bellach dab 'Anghenion' sy'n eu hannog i ofyn a oes gan y claf anabledd dysgu, a yw'n awtistig neu'n niwroamrywiol.

 

Mae'r nodwedd newydd hefyd yn cynnig awgrymiadau ynghylch sut y gall staff a gwirfoddolwyr addasu eu harddull cyfathrebu a chwblhau eu harsylwadau'n fwy effeithiol.
 

Ers ei gyflwyno ym mis Hydref, mae cyfartaledd o 288 o gleifion y mis ag anabledd dysgu neu sy'n awtistig neu'n niwroamrywiol wedi cael eu nodi.


Dywedodd Matt James, Cydlynydd Profiad y Claf a Chynnwys y Gymuned: “Mae’r tab ‘Anghenion’ ar ein Cofnod Clinigol Claf electronig (ePCR) wedi bod yn amlygiad o ran deall sut rydym yn ymateb i’r bobl sydd ag anabledd dysgu.

“Bydd y data a gesglir nid yn unig yn gwella ein gallu i ddarparu gofal cynhwysol ond hefyd yn cyfrannu at ddealltwriaeth genedlaethol ehangach o anghenion iechyd y boblogaeth.

 

“Rydym wedi bod yn gweithio gyda’r gymuned anabledd dysgu ers 15 mlynedd, nid yn unig i’w helpu i ddeall a theimlo’n hyderus ynglŷn â defnyddio ein gwasanaethau, ond hefyd i gynorthwyo ein dealltwriaeth ein hunain ynglŷn â’r ffordd orau o ymgysylltu ag aelodau’r gymuned.
 

“Mae’r darn hwn o waith yn enghraifft wych o sut y gall dysgu o brofiadau ddod yn ôl i’r dechrau wrth ddylanwadu ar ddarparu a dylunio gwasanaethau.”

Ariannwyd y fenter gan Wella Anabledd Dysgu Cymru ac enillodd gydnabyddiaeth ryngwladol yn Fforwm Rhyngwladol ar Ansawdd a Diogelwch mewn Gofal Iechyd yn yr Iseldiroedd y mis diwethaf, a gynhaliwyd gan y Sefydliad Gwella Gofal Iechyd.

 

Dywedodd Rachel Jones, Arweinydd Cenedlaethol ar gyfer Rhaglen Anabledd Dysgu Gwelliant Cymru: “Fel rhan o’n gwaith ehangach i wella diogelwch cleifion i’r bobl sydd ag anabledd dysgu yng Nghymru, roedd yn bleser cydweithio â WAST ar y prosiect gwella arloesol hwn.

 

“Rydym yn gwybod bod pobl ag anabledd dysgu yn rhy aml yn profi niwed y gellir ei osgoi yn ein lleoliadau gofal iechyd, sy'n ymestyn i wasanaethau ambiwlans.

 

“Mae gwneud y defnydd mwyaf posibl o addasiadau rhesymol wrth ddarparu gwasanaethau yn un dull allweddol o wella canlyniadau a darparu gofal sy’n canolbwyntio ar y person.

 

“Drwy ddefnyddio methodoleg gwella ansawdd, mae’r prosiect newydd hwn wedi tynnu sylw at y rhwyddineb y gellir cynnig yr addasiadau darparu gwasanaethau hyn unwaith y bydd person wedi’i nodi fel un sydd ag anabledd dysgu.

 

“Rwy’n hyderus y byddwn yn parhau i ddysgu o’r gwaith hwn am beth amser, ac y bydd o fudd i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru wrth gael mynediad at ofal brys.”


Nodiadau gan y golygydd

I gael rhagor o wybodaeth, anfonwch neges e-bost at y Swyddpg CyfathrebuBeth.Eales@wales.nhs.uk