Neidio i'r prif gynnwy

Mae rôl Cadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi'i hymestyn am bedair blynedd arall

12.01.26

Mae rôl Cadeirydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi cael ei hymestyn am bedair blynedd arall.

Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cadarnhau y bydd Colin Dennis, sydd wedi bod yn ei swydd fel Cadeirydd ers mis Hydref 2022, yn parhau yn ei rôl tan fis Medi 2030.

Cyn ymuno â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, cafodd Colin yrfa nodedig yn y sectorau ariannol ac awyrenneg ac roedd wedi ennill cyfoeth o brofiad mewn rolau anweithredol mewn sectorau rheoleiddiedig gan gynnwys y GIG, tai cymdeithasol a gofal oedolion a gwasanaethau cymdeithasol.

Yn ei bedair blynedd gyntaf fel Cadeirydd, mae Colin wedi gweld y gwasanaeth yn addasu ac yn moderneiddio i ymdopi â'r galw a sicrhau bod cleifion yn derbyn y gofal gorau posibl.


Yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae Colin, ynghyd â Bwrdd yr Ymddiriedolaeth, wedi goruchwylio newidiadau pwysig i'r ffordd y mae'r gwasanaeth yn delio â galwadau 999.


Ym mis Gorffennaf 2025, cyflwynwyd categori Porffor newydd ochr yn ochr â'r categori Coch ar gyfer galwadau sy'n peryglu bywyd ar unwaith.

Ychydig fisoedd yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr 2025, cyflwynwyd categorïau Oren, Melyn a Gwyrdd hefyd, sy'n golygu bod pum categori o alwadau bellach, pob un wedi'i gynllunio i sicrhau bod cleifion yn cael y gofal cywir ar gyfer eu hanghenion.

Dywedodd Colin: “Rwyf wrth fy modd bod fy rôl fel Cadeirydd wedi’i hymestyn am bedair blynedd arall.

“Pan ymunais â’r sefydliad gyntaf, roeddwn i’n ymwybodol iawn o’r heriau sy’n wynebu’r GIG yn gyffredinol, a’r gwasanaeth ambiwlans yn benodol.

“Mae’r heriau hynny’n parhau ond diolch i waith caled fy nghydweithwyr ac arloesiadau yn y ffordd rydym yn delio â’r galw, rwy’n credu ein bod bellach yn dechrau gweld gwelliannau gwirioneddol i’r gwasanaethau rydym yn eu cynnig i bobl Cymru.”