14.04.2025
MAE Gwasanaeths Ambiwlans Cymru yn annog y cyhoedd i ddefnyddio’u gwasanaethau’n gyfrifol dros benwythnos pedwar diwrnod Gŵyl Banc y Pasg.
Gyda gwyliau’r Pasg yn cyd-daro â’r pwysau tymhorol arferol ar Wasanaeth Ambiwlans Cymru a’r GIG ehangach, gall amseroedd aros mewn adrannau achosion brys fod yn hirach nag arfer.
Er mwyn helpu i ddiogelu gwasanaethau brys ar gyfer y rhai sy'n wynebu cyflyrau lle mae bywyd yn y fantol, mae'r Ymddiriedolaeth yn atgoffa'r cyhoedd i ystyried opsiynau gofal iechyd eraill sydd ar gael ledled Cymru cyn ffonio 999.
Mae’r rhain yn cynnwys GIG 111 Cymru, fferyllfeydd, meddygon teulu, ac Unedau Mân Anafiadau, sy’n gallu darparu cyngor a thriniaeth ar gyfer anghenion meddygol llai brys.
Gall pobl gael cymorth gan GIG 111 Cymru ar gyfer cyflyrau nad ydynt yn bygwth bywyd, gan eu helpu i gael y gofal cywir, yn y lle iawn, y tro cyntaf.
Wrth i'r Ymddiriedolaeth baratoi ar gyfer penwythnos prysur, mae hefyd yn annog pobl i gasglu unrhyw feddyginiaeth angenrheidiol a stocio cyflenwadau cymorth cyntaf i reoli mân anafiadau gartref.
Dywedod Judith Bryce, cyfarwydwr Cynorthwyol Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru:
"Fel bob amser, rydym yn disgwyl cyfnod Gwyl y Banc prysur, a dyma pam rydym yn annog pawb i sicrhau bod ein hadnoddau ar gael dros y Pasg i’r rhai sydd â’r cyflyrau mwyaf difrifol neu sy’n bygwth bywyd.
"Os byddwch yn cysylltu a ni ac nad yw’n argfwng, efallai y bydddwch yn cymryd amser critigol i ffwrdd o rywun ag angen brys.
"Mae hefyd yn bwysig deall nad yw cyrraedd yr ysbyty mewn ambiwlans yn sicrhau y byddwch yn cael triniaeth cyflymach yn yr adran achosion brys.
"Gwnewch dewisiadau gwybodus ac ystyriwch yr ystod lawn o wasanaethau iechyd sydd ar gael i chi.”
Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wasanaethau iechyd amgen yma;