Neidio i'r prif gynnwy

Neges gan y Prif Weithredwr Jason Killens

14.05.25

Gweler isod neges bwysig gan y Prif Weithredwr Jason Killens:


Ar ôl bron i saith mlynedd gwych gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru fel Prif Weithredwr, byddaf yn symud ymlaen i borfeydd newydd i ymgymryd â swydd newydd fel Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Llundain.

Er fy mod i wrth fy modd yn dechrau'r swydd yn Llundain yn fy ninas enedigol, bydd yn anodd gadael Cymru, sydd wedi bod yn fraint fawr i'w gwasanaethu.

Dw i'n meddwl ei bod hi'n deg dweud bod y saith mlynedd diwethaf wedi bod ymhlith y rhai mwyaf heriol a gwerth chweil yn fy ngyrfa, fel y maent wedi bod i gynifer ohonom.

Pan gyrhaeddais o Dde Awstralia ym mis Medi 2018, doeddwn i ddim yn gwybod y byddem ni'n wynebu pandemig Covid-19 18 mis yn ddiweddarach, a'r holl heriau a fyddai'n dod yn sgil hynny.

Mewn sawl ffordd, rwy'n credu bod y pandemig wedi dangos fy amser yma yn WAST – cyfnod pan welsom ymrwymiad, gwydnwch a thrugaredd ein pobl yn wirioneddol, yn gweithio ddydd ar ôl dydd yn wyneb yr anhysbys, gydag angerdd a phwrpas.

Ac er, gobeithio, fod y dyddiau pandemig hynny ymhell y tu ôl i ni, dim ond profi'r hyn roeddwn i eisoes wedi'i ddysgu yn fy mlwyddyn a hanner gyntaf yn WAST wnaethon nhw - bod hwn yn sefydliad arbennig gyda phobl arbennig, sy'n rhoi cleifion wrth wraidd popeth maen nhw'n ei wneud yn gyson.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi cymryd camau breision o ran diweddaru ein model clinigol.

Bydd y newidiadau a wnaethom yn ystod y misoedd diwethaf, gyda chefnogaeth ein comisiynwyr a Llywodraeth Cymru, a chyda fframwaith perfformiad newydd arloesol i'w lansio ym mis Gorffennaf, yn gosod WAST fel y gwasanaeth ambiwlans blaenllaw yn y DU, rhywbeth yr wyf yn hynod falch ohono.

Mae hyn oherwydd gwaith caled a phenderfyniad cymaint o bobl ar draws y sefydliad, a gydnabu fod yn rhaid i ni wneud rhywbeth gwahanol os oeddem am leihau lefelau'r niwed a brofir gan ein cleifion a bod gan ein staff medrus a thalentog yr allwedd i weithio drwy sut olwg fyddai ar "wahanol", a sut y gallai weithio.

Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth mai'r newidiadau rydyn ni'n eu gwneud yw'r peth iawn i'w wneud, ac y bydd ein cleifion, a'n pobl, yn elwa ohonynt trwy wasanaeth mwy diogel a mwy priodol yn glinigol sy'n diwallu eu hanghenion yn well.

Yn ystod yr holl adegau hollbwysig hyn yn ystod fy amser yn WAST, o newid ein model gofal, i weithio drwy'r pandemig, ennill statws ymddiriedaeth prifysgol, herio ein diwylliant i greu amgylchedd gwaith mwy diogel a theg, a rhoi llais a phroffil i WAST ar lefel genedlaethol fel Cadeirydd Cymdeithas Prif Weithredwyr Ambiwlansys (AACE), rwyf wedi cael fy nghefnogi gan Fwrdd a Thîm Arweinyddiaeth Weithredol gwych, ond yn bennaf gan ein pobl wych, mewn rolau corfforaethol, cymorth, gweithredol a chlinigol, i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i gyflawni'r gorau y gallwn i'n cleifion a phobl Cymru.

Er bod ffordd bell i fynd o hyd, rwy'n hyderus y bydd Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn parhau i esblygu a datblygu, a chyda chanfyddiadau diweddar y Grŵp Cynghori Gweinidogol i leihau'r disgwyliad amser trosglwyddo i uchafswm o 45 munud, bydd gan bobl Cymru wasanaeth ambiwlans modern a blaengar y gallant fod yn falch ohono.

Byddaf yn parhau i arwain WAST gyda balchder ac ymrwymiad dros y misoedd pwysig nesaf tra bod trefniadau dros dro yn cael eu cwblhau a'r broses o recriwtio fy olynydd yn dechrau.

Yn y cyfamser, hoffwn ddiolch i chi am y gefnogaeth rydw i wedi'i derbyn dros y saith mlynedd diwethaf, ac rwy'n gwybod y byddwch chi'n parhau i'w chynnig i'r sefydliad yn y dyfodol.

Byddaf bob amser yn gefnogwr o WAST ac, yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd AACE ac fel Prif Swyddog Gweithredol newydd Gwasanaeth Ambiwlans Llundain, byddaf yn hyrwyddo rhai o'r mentrau gwych rydym wedi'u harwain yma yn y sector ambiwlans ehangach.

Yr Athro Jason Killens KAM