Neidio i'r prif gynnwy

Neges gŵyl y banc dechrau Mai gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru

29.04.25

MAE Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn gofyn i'r cyhoedd gadw'n ddiogel a defnyddio 999 yn gyfrifol dros ŵyl y banc dechrau Mai.

Cyn yr hyn a ddisgwylir i fod yn gyfnod hynod brysur, mae'r Ymddiriedolaeth yn gofyn i bobl gymryd y rhagofalon canlynol i gadw eu hunain yn iach –

 

  • Stociwch i fyny ar eich presgripsiwn cyn y penwythnos tridiau pan fydd meddygfeydd teulu ar gau.
  • Yfwch alcohol yn gymedrol, gan fwyta cyn yfed ac yfwch ddiodydd alcoholaidd a diodydd meddal bob yn ail.
  • Trefnwch eich cludiant adref ymlaen llaw a pheidiwch byth â gyrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych becyn cymorth cyntaf wedi'i stocio'n llawn i ofalu am fân anafiadau gartref, gan gynnwys meddyginiaethau ar gyfer anhwylderau cyffredin fel peswch, dolur gwddf a dolur rhydd.
  • Cadwch lygad am deulu, ffrindiau a chymdogion sy'n arbennig o agored i niwed.
  • Os ydych chi'n sâl neu wedi'ch anafu ac yn ansicr beth i'w wneud, ewch i wefan GIG 111 Cymru.
     

Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae penwythnosau gwyliau banc bob amser yn gyfnod prysur iawn i ni, ac fel arfer rydym yn gweld cynnydd yn nifer y galwadau sy'n cael eu derbyn gan ein canolfannau cyswllt.

“Mae'r system iechyd eisoes dan bwysau sylweddol, ac mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth sicrhau ein bod yn amddiffyn ein hadnoddau gwerthfawr i'r rhai sydd eu hangen fwyaf felly sicrhewch eich bod yn ymddwyn yn gyfrifol a helpwch ni i'ch helpu chi.

“Cofiwch fod 999 ar gyfer argyfyngau yn unig, felly os nad yw’n argyfwng ond bod angen cymorth meddygol arnoch neu os ydych chi eisiau sicrwydd, dylai gwefan GIG 111 Cymru fod eich man galw cyntaf am gyngor, gwybodaeth a’r camau nesaf.”

Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn gofyn i'r cyhoedd drin gweithwyr brys â pharch.

Aeth Judith ymlaen i ddweud: “Ar adeg lle bydd llawer o bobl yn mwynhau'r penwythnos hir, yn yfed alcohol ac yn gwneud y gorau o'r tywydd da a ragwelir, ystyriwch y rhai sy'n gweithio'n galed i gadw pobl yn ddiogel a thriniwch ein gweithwyr ambiwlans â'r parch maen nhw’n ei haeddu.

“Er ein bod yn dymuno gŵyl banc bleserus i bawb, cofiwch fod gweithwyr brys yn fodau dynol cyffredin sydd ond yn ceisio gwneud eu gwaith.

“Maen nhw yno i’ch helpu chi, felly peidiwch â gwneud eu swyddi’n anoddach nag ydyn nhw eisoes drwy ymddwyn yn gamdriniol tuag atynt.