29.12.25
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn annog pobl i aros yn ddiogel a defnyddio'r gwasanaeth 999 yn gyfrifol Nos Galan eleni.
Yn draddodiadol, y cyfnod hwn yw un o nosweithiau prysuraf y flwyddyn i'r Ymddiriedolaeth sy'n annog y cyhoedd i gymryd camau syml i ddiogelu eu hiechyd a'u lles:
Dywedodd Judith Bryce, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau’r Ymddiriedolaeth: “Mae Nos Galan bob amser yn gyfnod prysur iawn i ni, a’r llynedd cawsom 1,045 o alwadau brys 999 ynghyd â 2,272 o alwadau nad ydynt yn frys i'n gwasanaeth 111.
“Mae’r system iechyd dan bwysau sylweddol, ac mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae wrth amddiffyn gwasanaethau hanfodol i’r rhai sydd eu hangen fwyaf.
“Drwy ymddwyn yn gyfrifol, gallwch chi ein helpu ni i’ch helpu chi.
“Cofiwch mai dim ond ar gyfer argyfyngau y mae 999. Os nad yw eich sefyllfa’n peryglu bywyd ond bod angen cyngor meddygol neu sicrwydd arnoch, dylech gysylltu â gwefan GIG 111 Cymru yn gyntaf.”
Mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn atgoffa'r cyhoedd i drin gweithwyr brys â pharch.
Ychwanegodd Judith: “Er y bydd llawer o bobl yn dathlu ac yn mwynhau eu hunain, bydd ein staff yn gweithio’n ddiflino i gadw pobl yn ddiogel.
“Cofiwch fod gweithwyr brys yn bobl gyffredin sy’n gwneud gwaith anghyffredin.
“Maen nhw yno i helpu, felly gofynnwn i bawb drin ein criwiau ambiwlans â charedigrwydd a pharch a pheidio â’u gwneud yn destun unrhyw fath o gam-drin.
“Dymunwn Nos Galan ddiogel a phleserus i bawb ac iechyd da yn y flwyddyn i ddod.”