Neidio i'r prif gynnwy

'O'n i yno i'w helpu' – Parafeddyg a gafodd ei boeri ato gan glaf camdriniol yn adrodd ei stori

26.02.25

MAE parafeddyg a gafodd ei boeri ato gan glaf ymosodol wedi ailfyw ei drallod.

Roedd Jonathan Roberts, parafeddyg Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ers 24 mlynedd, yn ceisio trin Nigel Francis yn ardal Ravenhill yn Abertawe fis Mai diwethaf pan aeth yn ymosodol.

Wrth i Francis gael ei arwain at fan heddlu mewn gefynnau, bu iddo boeri yn wyneb Jonathan.

Yn Llys Ynadon Abertawe ddoe, cafodd Francis, 58, o Flaenymaes, Abertawe, ei ddedfrydu i wyth mis yn y carchar a gorchmynnwyd iddo dalu iawndal o £50 i Jonathan.

Roedd eisoes wedi cael ei gyhuddo’n euog o ymosod ar weithiwr brys a defnyddio geiriau neu ymddygiad bygythiol, camdriniol neu sarhaus i achosi aflonyddwch, braw neu drallod.

Dywedodd Jonathan, 50: “Dwi’n ail feddwl am bob sefyllfa nawr.

“Dwi yn deall, pan fydd pobl yn feddw, ei fod yn effeithio ar eu penderfyniadau, ond does neb yn haeddu cael ei siarad â nhw yn y fath fodd, ei fygwth ac yna poeri arno, pan mai’r cyfan rydych chi’n trio ei wneud yw cyflawni eich rôl fel parafeddyg i helpu cleifion yn y gymuned.

“Pan wnaeth e boeri ata i, o’n i'n teimlo'n ffiaidd bod claf yn gallu trin unrhyw un yn y fath modd.

“O’n i yno i’w helpu.”

Roedd Jonathan, sydd wedi’i leoli yn Ystradgynlais, Powys, wedi cael ei anfon i alwad ‘Coch’ sef galwad lle mae bygwth uniongyrchol i fywyd gyda’i gydweithiwr.

Dywedodd y tad i un: “Roeddwn ni wedi cael ein hanfon at ddyn yr adroddwyd ei fod yn anymwybodol, ond pan wnaethon ni gyrraedd, roedd yn amlwg yn ymwybodol ac i’w weld o dan ddylanwad alcohol.

“Roedd yn ymosodol ar lafar ac yn fygythiol yn gorfforol o’r cychwyn cyntaf, felly fe wnaethon ni alw am gymorth gan yr heddlu.

“Gyda’r heddlu bellach yn bresennol, fe barhaodd â’i lif o gamdriniaeth, felly cafodd ei arestio a’i roi mewn gefynnau.

“Wrth i fan heddlu gyrraedd i’w hebrwng i’r ysbyty, fe bwysodd ymlaen a phoeri’n uniongyrchol ata i, gyda’r sbwtem yn glanio ar fy wyneb, fy ngwddf a’m dillad.”

Arestiwyd Francis ymhellach am ymosod ar weithiwr brys a’i roi yn fan yr heddlu, lle ymunodd Jonathan ag ef i barhau i ddarparu ei ofal.

Dywedodd Jonathan: “Roedd yr hyn a wnaeth yn ffiaidd, ond roedd dyletswydd gofal o hyd am y dyn hwn gyda fi.

“Mae parhad gofal yn hollbwysig, pe bawn wedi trosglwyddo ei ofal i rywun arall, efallai y byddai rhywbeth wedi’i golli wrth drosglwyddo i staff yr ysbyty.”

Yn Ysbyty Treforys Abertawe, ar ôl i Francis gael ei drosglwyddo, fe wnaeth Jonathan gyflwyno ei hun yn brydlon yn yr adran achosion brys, lle cafodd ei frysbennu gan ymarferydd nyrsio a’i asesu gan feddyg.

“Diolch byth, oherwydd nad oedd y poer wedi mynd i mewn i’m llygaid, fy nhrwyn na’m ceg, doedd dim angen unrhyw driniaeth arna i,” meddai.

Dywedodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Mae unrhyw fath o ymosodiad yn annerbyniol, ond mae poeri’n arbennig yn gwbl anfoesol.

“Roedd Jonathan yno i helpu’r dyn hwn, a dyma’r diffyg parch eithaf.

“Mae’r ffaith bod Jonathan wedi parhau i ddarparu gofal iddo yn rhyfeddol a dweud y gwir.

“Byddwn bob amser yn ceisio erlyn y rhai sy’n niweidio ein pobl, a dylai dedfrydau adlewyrchu’r effaith ddinistriol a hirdymor y mae ymosod yn ei chael ar ein staff a’n gwirfoddolwyr.

“Ein ple i’r farnwriaeth yw defnyddio graddau llawn eu pwerau dedfrydu i sicrhau bod dedfrydau cymesur yn cael eu rhoi’n gyson i’r rhai a geir yn euog o gyflawni’r troseddau hyn yn erbyn ein pobl.”

Ychwanegodd Sarjant John Hughes o Heddlu De Cymru: “Ni ddylai neb ddisgwyl i rywun ymosod arno – naill ai’n gorfforol neu’n eiriol – pan fyddan nhw’n mynd i’r gwaith, p’un a ydych yn gweithio i’r gwasanaethau brys neu fel arall.

“Mae’r ymddygiad hwn yn gwneud ein rolau’n fwy heriol, a byddwn yn cymryd camau cadarn yn erbyn y rhai sy’n gyfrifol.”

Ym mis Mai 2021, lansiodd Cyd-grŵp Gwasanaethau Brys Cymru ei ymgyrch Gyda Ni, Nid Yn Ein Herbyn i geisio lleihau nifer yr ymosodiadau ar weithwyr brys.

Addawwch eich cefnogaeth ar gyfryngau cymdeithasol trwy ddefnyddio'r hashnod #GydaNiNidYnEinHerbyn.