14.02.25
TREULIODD Newyddion Sianel 5 y diwrnod gydag Ymatebwyr Lles Cymunedol yn ddiweddar i ddysgu am sut y maent yn cefnogi Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i ddarparu'r gofal neu'r cyngor cywir, yn y lle iawn, bob tro.
Mae'r gwirfoddolwyr hyn yn mynychu galwadau 999 yn eu cymuned ac yn cymryd cyfres o arsylwadau gan gleifion, gan gynnwys cyfradd curiad y galon a lefelau ocsigen, sy'n helpu clinigwyr ystafell reoli'r Ymddiriedolaeth i benderfynu ar y camau nesaf priodol.
Gallai hynny olygu anfon ambiwlans, cyfeirio’r claf at ei feddyg teulu, cyngor hunanofal neu rywbeth arall.
Mae Ymatebwyr Lles Cymunedol yn helpu'r gwasanaeth i ddarparu'r gofal mwyaf diogel posibl i gleifion, yn ogystal â lleihau derbyniadau ysbyty y gellir eu hosgoi.