Neidio i'r prif gynnwy

Teyrngedau i barafeddyg uchel ei barch o Sir Ddinbych, Dermot

14.01.26

Talwyd teyrngedau i barafeddyg cadarn Sir Ddinbych yn dilyn ei farwolaeth yn 64 oed.

Bu farw Dermot O’Leary, rheolwr gweithrediadau gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi’i leoli yn Y Rhyl, yr wythnos diwethaf yn dilyn salwch byr.

Roedd y tad i ddau o blant, a oedd wedi gwasanaethu ers dros 20 mlynedd, yn ffigur cyfarwydd yng ngogledd Cymru, diolch i’w waith diysgog o hyrwyddo diogelwch ffyrdd a gwaith partneriaeth gyda gwasanaethau brys eraill.

Mae’n gadael ar ei ôl ei wraig, Cornelia, ei fab Gregory a’i ferch Annabel.

Meddai Emma Wood, Prif Weithredwr Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Roedd Dermot yn angerddol am ei waith, ac roedd ei ymroddiad i gleifion a staff yn wirioneddol eithriadol.

“Yn barafeddyg medrus iawn, gofalodd am filoedd o gleifion ar draws gogledd Cymru dros nifer o flynyddoedd, bob amser yn dangos angerdd a thosturi.

“Roedd Dermot yn aelod uchel ei barch o’n tîm a oedd yn gweithio’n agos gyda sefydliadau partner hefyd.

“Mae pob un ohonom yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru yn drist iawn am farwolaeth y bonheddwr caredig ac ystyriol hwn.

“Diolch yn fawr, Dermot, am bopeth a wnaethoch chi roi i WAST - bydd colled fawr ar eich ôl.”

Dechreuodd Dermot ei yrfa gyda’r ambiwlans gyda Gwasanaeth Ambiwlans Essex cyn ymuno â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn 2001 fel technegydd meddygol brys. 

Fe gymhwysodd fel parafeddyg yn 2003, cafodd ei benodi’n goruchwyliwr parafeddygol yn 2006, daeth yn arweinydd tîm clinigol yn 2013 a rheolwr gweithrediadau ar ddyletswydd yn 2020.

Cyn ei farwolaeth, Dermot, a oedd yn byw yn Llandudno, oedd y rheolwr ardal dros dro yng Nghonwy a Sir Ddinbych.

Ochr yn ochr â’i rôl, neilltuodd amser sylweddol i addysgu’r cyhoedd am ddiogelwch ffyrdd a gweithiodd gyda’i gydweithwyr o wasanaethau golau glas eraill i gyflwyno’r sioe drawiadol Deadly Mates i ysgolion a cholegau ar draws gogledd Cymru.

Yn 2023, trefnodd ymweliad ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin i Orsaf Ambiwlans Y Rhyl i’w cefnogi ar ôl iddyn nhw gael eu dadleoli.

Roedd gan Dermot 26 mlynedd o wasanaeth gyda Ffiwsilwyr Cymreig y Fyddin Diriogaethol, rhan o'r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Yn gynrychiolydd undeb llafur uchel ei barch, fe gyflwynodd hyfforddiant digwyddiadau mawr i staff ambiwlans a chydweithwyr o wasanaethau brys eraill hefyd.

Dywedodd y Prif Gwnstabl Amanda Blakeman KPM o Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn drist iawn i glywed am farwolaeth Dermot O'Leary, parafeddyg ymroddedig y mae ei ymrwymiad diysgog i achub bywydau yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'w rôl glinigol.

“Gweithiodd Dermot yn agos gyda swyddogion ar fentrau diogelwch ffyrdd fel Olivia’s Story a Deadly Mates, gan rannu ei arbenigedd, ei dosturi a'i brofiad byw i helpu i atal anafiadau difrifol a cholli bywyd ar ein ffyrdd.

“Gwnaeth ei broffesiynoldeb a'i bresenoldeb tawel argraff barhaol ar bawb a gafodd y fraint o weithio ochr yn ochr ag ef.

“Trwy ymgyrchoedd diogelwch ffyrdd ar y cyd, digwyddiadau addysgol a chydweithio rheng flaen, chwaraeodd Dermot rôl hanfodol wrth amddiffyn ein cymunedau a hyrwyddo ffyrdd mwy diogel i bawb - ni fydd ei gyfraniad yn cael ei anghofio.

“Ar ran Heddlu Gogledd Cymru, rydym yn estyn ein cydymdeimlad diffuant i deulu, ffrindiau a chydweithwyr Dermot yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru ar yr amser hynod anodd hwn.

“Bydd yn cael ei gofio gyda pharch, diolchgarwch ac edmygedd.”

Ychwanegodd Dawn Docx, Prif Swyddog Tân Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru: “Gyda thristwch mawr y cawsom wybod am farwolaeth Dermot.

“Rwy’n gwybod bod cydweithwyr ar draws y gwasanaeth wedi gweithio’n agos gyda Dermot dros nifer o flynyddoedd, a gwnaeth ei ymrwymiad i weithio mewn partneriaeth ac amddiffyn ein cymunedau argraff barhaol ar gynifer.

“Fel gwasanaeth, hoffem anfon ein cydymdeimlad dwysaf at deulu a ffrindiau Dermot, a’r rhai a weithiodd gydag ef yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru.

“Rydym yn meddwl amdanoch chi gyd.”