23.06.25
BYDD mwy na 140 o ambiwlansys a cherbydau newydd yn rhan o gam cyntaf strategaeth 5 pum mlynedd Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, a fydd yn gweld cerbydau ac ambiwlansys newydd sydd â'r dechnoleg, y deunyddiau a'r cynhyrchion diweddaraf, yn disodli cerbydau hŷn.
Mae'r strategaeth ehangach, sy'n weithredol hyd at 2030, yn cynnwys blaenoriaethu cerbydau trydan a hybrid, lle bo'n hynny'n ymarferol, er mwyn lleihau allyriadau carbon, ac mae'n ymwneud â’r holl gerbydau a weithredir gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru.
Mae hyn yn cynnwys y Gwasanaeth Cludo Cleifion nad ydynt yn achosion argyfwng, sy'n helpu pobl i fynd i apwyntiadau ysbyty ac yn trosglwyddo cleifion rhwng ysbytai.
Daw buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y 142 o ambiwlansys a cherbydau newydd, ar adeg pan mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar fin cyflwyno gwelliannau i sut mae'n ymateb i'r galwadau brys 999 mwyaf difrifol.
Nod y newidiadau hyn, a ddaw i rym ym mis Gorffennaf, yw achub mwy o fywydau, a gwella canlyniadau i bobl ar ôl ataliad y galon, salwch difrifol, digwyddiad neu ddamwain.
Dywedodd Jeremy Miles, yr Ysgrifennydd Iechyd: “Mae'r buddsoddiad hwn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru y cerbydau modern a dibynadwy sydd eu hangen i ddarparu gofal rhagorol i bobl ledled Cymru.
“Mae'r gwasanaeth ambiwlans yn chwarae rôl hanfodol nid yn unig wrth ymateb i argyfwng, ond hefyd drwy hwyluso llif y cleifion ar draws ein system iechyd gyfan.
“Trwy gael cerbydau newydd yn lle 142 o'r hen gerbydau, rydyn ni'n gwella gwydnwch ein gallu i ddarparu ymateb brys ac yn cefnogi ein nodau amgylcheddol ar yr un pryd.”
Dywedodd Chris Turley, Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ac Adnoddau Corfforaethol yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y buddsoddiad parhaus, sy'n ein galluogi i weithredu cerbydau modern ac effeithlon sy'n addas ar gyfer eu diben.
“Mae'n hanfodol manteisio ar y technolegau a'r adnoddau arloesol diweddaraf, ac ar yr un pryd gweithio mewn partneriaeth â staff a phartneriaid Undebau Llafur. Drwy hynny, rydyn ni’n gallu darparu'r profiad gorau posibl i gleifion, yn ogystal ag amgylchedd gwaith sy’n effeithlon a chyfforddus i staff sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u diwrnod gwaith yn y cerbydau hyn.
“Fel gwasanaeth ambiwlans cenedlaethol Cymru, sy'n gwasanaethu ar draws ardal o 8,000 o filltiroedd sgwâr, mae gwella ansawdd aer yn rhywbeth rydyn ni wedi ymrwymo'n llawn iddo, felly mae'r cerbydau glanach a gwyrddach hyn yn helpu i gyflawni'r ymrwymiad hwnnw i leihau ein hôl troed amgylcheddol yn unol â chynllun strategol sero net Llywodraeth Cymru.”