19.11.25
Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi lansio menter newydd i wella gofal i bobl sy'n cwympo.
Mae mwy na 46,300 o alwadau wedi cael eu gwneud i Wasanaeth Ambiwlans Cymru ers mis Ionawr ar gyfer pobl sydd wedi cwympo.
Dyma'r prif reswm pam mae pobl yng Nghymru wedi galw am ambiwlans eleni, ac yna problemau anadlu (38,527) a phoen yn y frest (30,142).
Mae'r Ymddiriedolaeth wedi sefydlu Desg Cwympiadau bwrpasol yn ei hystafell reoli 999 a gynlluniwyd i gael cymorth yn gyflym i bobl sydd wedi cwympo.
Dywedodd Pete Brown, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Gweithrediadau (Gofal Integredig): “Pan fydd rhywun yn cwympo, mae'n bwysig iawn ein bod ni'n cyrraedd nhw'n gyflym neu gall cymhlethdodau ddechrau datblygu o fewn ychydig oriau os ydyn nhw'n dal ar y llawr.
“Yn y gorffennol, mae pobl sydd wedi cwympo wedi aros yn llawer hirach am gymorth nag y byddai unrhyw un ohonom yn ei hoffi, ac er ein bod wedi cyflwyno nifer o fentrau dros y blynyddoedd, y Ddesg Cwympiadau yw'r tro cyntaf i ni ei wneud.
“Mae gofal o bell yn rhan enfawr o sut rydym yn trawsnewid gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru, ac mae'r Ddesg Cwympiadau yn estyniad o hynny.
“Drwy ddefnyddio sgiliau ein clinigwyr gofal o bell gwych, ein nod yw sicrhau bod pobl sy'n cwympo yn cael y cymorth cywir yn gyflym, a ddylai nid yn unig wella eu profiad, ond gall hefyd arwain at ganlyniadau gwell.
“Mae trin mwy o bobl yn nes at y cartref hefyd yn lleihau’r pwysau oddi ar Adrannau Achosion Brys, felly mae hyn yn ymwneud â chwarae ein rhan i gefnogi’r system iechyd ehangach hefyd.”
Mae'r Ddesg Cwympiadau, sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, ar agor bob dydd o 8.00am tan 8.00pm, pan fydd y rhan fwyaf o gwympiadau'n digwydd.
Mae cydlynydd adnoddau yn gweithio gyda pharafeddyg neu nyrs i drefnu anfon ymatebwr cwympiadau, fel gwirfoddolwr gwasanaeth ambiwlans, diffoddwr tân hyfforddedig neu aelod o Wasanaeth Ymateb i Gwympiadau Ambiwlans Sant Ioan Cymru.
Cyn i'r ymatebwr gyrraedd, bydd y parafeddyg neu'r nyrs yn cysylltu â'r claf i asesu unrhyw anafiadau, eu cynorthwyo i godi'n ddiogel oddi ar y llawr a rhoi cyngor ar feddyginiaeth.
Unwaith y bydd yr ymatebwr yn cyrraedd, bydd y parafeddyg neu'r nyrs yn asesu anghenion y claf dros y ffôn neu drwy fideo, ac yn gweithio gyda chlinigwyr eraill yr ystafell reoli a bwrdd iechyd lleol y claf i reoli eu gofal yn nes at y cartref.
Dywedodd Ben Scott, Arweinydd Clinigol Cwympiadau yng Ngwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Gall unrhyw un gwympo, ond wrth i ni heneiddio, mae’r siawns y byddwn ni’n cwympo yn cynyddu a’n gallu i godi’n annibynnol yn lleihau.
“Mae codi oddi ar y llawr cyn gynted â phosibl, lle mae'n ddiogel gwneud hynny, yn allweddol i osgoi niwed sy'n gysylltiedig ag amser a dreulir ar y llawr.
“Mae’r Ddesg Cwympiadau yn fenter wych sy’n helpu pobl cyn gynted â phosibl ar ôl cwymp.
“Mae’n cynnig cyngor diogel a phroffesiynol ar sut i godi oddi ar y llawr neu, os nad yw hynny’n bosibl, sut i aros yn ddiogel nes bod cymorth yn cyrraedd.
“Lle na all claf godi, bydd ein cydlynydd adnoddau yn trefnu’n gyflym i ymatebwr cwympiadau ddod i helpu.
“Nid yw’r rhan fwyaf o gwympiadau’n arwain at anaf difrifol, ond gall cwympiad beri i berson golli ei hyder, mynd yn anghymdeithasol a theimlo fel pe baent wedi colli eu hannibyniaeth.
“Mae gwella’r ffordd rydyn ni’n gofalu am bobl sy’n cwympo yn flaenoriaeth uchel, ond mae atal yn dechrau gartref, a gall cymryd ychydig o gamau syml helpu i atal cwymp yn y lle cyntaf.”
Ewch i wefan Age Cymru i gael cyngor ar sut i atal cwympiadau.