Rydym yn gwybod bod tuedd i nifer y digwyddiadau cymdeithasol gynyddu dros fisoedd yr haf. Os ydych yn dewis yfed alcohol, hoffem eich atgoffa i fod yn gall, gwybod eich terfynau, bod yn ymwybodol o'r hyn sydd o'ch cwmpas ac osgoi yfed ar stumog wag.
Mae gan wefan GIG 111 Cymru ragor o wybodaeth am ddiogelwch alcohol.